Hyfforddiant a Meithrin Capasiti

Mae hyfforddiant perthnasol yn ffactor pwysig wrth ystyried sut i roi'r sgiliau a'r wybodaeth ofynnol i'ch cyngor er mwyn penderfynu os, pryd a sut i ymgymryd â gwasanaethau ac asedau newydd.

Un Llais Cymru

Un Llais Cymru yw'r prif sefydliad i gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Mae'n darparu llais cryf wrth gynrychioli buddion y cynghorau ac ystod o wasanaethau o ansawdd uchel i gefnogi eu gwaith. Ffurfiwyd y sefydliad ym mis Ebrill 2004 wrth gyfuno'r ddau prif sefydliad rhagflaenol: Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol yng Nghymru a Chymdeithas Cynghorau Bro a Thref Cymru.

Mae Un Llais Cymru yn cynnig hyfforddiant ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol.

Mae'n brofiad rhyngweithiol i gynghorwyr a chlercod sy'n cynnwys y meysydd allweddol canlynol:

  • Modelau ar gyfer trosglwyddo asedau
  • Deall materion yn ymwneud â throsglwyddo lesoedd a rhydd-ddaliadau
  • Modelaua chanllawiau ar gyfer ymdrin â Datganoli Gwasanaethau
  • Ysgogwyr Polisi
  • Cyfleoedd, Peryglon a Chanlyniadau a gynlluniwyd
  • Trefniadau Diwydrwydd Dyladwy
  • Cyfrifoldebau Rheoli Asedau
  • Rôl bwysig Cynghorwyr
  • Ffyrdd o ymgysylltu â'r gymuned

Cysylltwch â Wendi Patience yn Un Llais Cymru ar 01269 595400 i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle ar y cwrs.

Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol

Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol yw'r corff proffesiynol i glercod cynghorau lleol ac uwch weithwyr cynghorau. Mae aelodaeth y Gymdeithas yn cynyddu'n raddol ac mae bellach yn cynrychioli clercod dros 4,700 o gynghorau yng Nghymru a Lloegr.

Mae cwrs hyfforddi 'Trosglwyddo Asedau Cymunedol' y Gymdeithas yn trafod y pynciau canlynol:

  • Nodi asedau
  • Cofrestr o asedau
  • Diffinio ased
  • Cyfyngiadau amser
  • Costau
  • Hawliadau os na fydd pryniant yn mynd rhagddo
  • Adnewyddu'r cofrestriad
  • CynllunBusnes
  • Hyfywedd y prosiect
  • Canfod cyllid
  • Grant
  • Cronfeydd wrth gefn
  • Benthyciad masnachol
  • Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus
  • Annog y cyhoedd i gymryd rhan
  • Mentrau ar y cyd
  • Statws elusennol
  • Rhydd-ddaliad neu lesddaliadau
  • Treth ar Werth (TAW)
  • Ardrethi Busnes
  • Masnachu yn ôl Cyngor
  • Y Strwythur er mwyn masnachu.