Hyfforddiant

“Hyfforddiant yw’r arf pwysicaf sydd gennym, a rhaid ei ddefnyddio i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau.”

Mae cynllun hyfforddi ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref (gweler isod) wedi cael ei ddatblygu ac wrthi’n cael ei ddosbarthu ar draws Cymru.  Am fanylion o ddigwyddiadau hyfforddi sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi, cymerwch olwg ar ein Calendr Hyfforddiant.

Yn 2005, gan weithredu ar argymhelliad “Astudiaeth Aberystwyth”, sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Grwp Ymgynghorol Cenedlaethol ar Hyfforddiant, a gafodd y cyfrifoldeb o ddatblygu Strategaeth Hyfforddi Genedlaethol ar gyfer cynghorau cymuned a thref yng Nghymru.  Cyhoeddwyd hon ym mis Medi 2006, ac fe’i cylchredwyd i bob cyngor yng Nghymru.

Cynlluniwyd y pecynnau ar sail modylau, gydag unedau y gellir eu cyflwyno o fewn sesiwn 2.5 awr min nos, dyna oedd hoff fformat mwyafrif y cynghorau.

Cynnwys y modiwlau yw:

  • Y Cyngor
  • Y Cynghorydd
  • Y Cyngor fel Cyflogwr
  • Dealltwriaeth o'r Gyfraith
  • Cyfarfodydd y Cyngor
  • Cyllid Llywodraeth Leol
  • Iechyd a Diogelwch
  • Cyflwyniad i Ymgysylltiad Cymunedol
  • Cod Ymddygiad
  • Sgiliau Cadeirio
  • Cynllunio Cymunedol at Argyfwng
  • Cynllunio Cymunedol
  • Ymgysylltiad Cymunedol Rhan II (Dulliau a Thechnegau)
  • Cydraddoldeb a Amrywiaeth
  • Rheoli Gwybodaeth
  • Defnyddio TG, Gwefannau & Chyfryngau Cymdeithasol
  • Gwneud Ceisiadau Grant Effeithiol
  • Rheolaeth Effeithiol ar Staff
  • Datganoli Gwasanaethau
  • Cynaliadwyedd/ Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
  • Cyllid Llywodraeth Leol – Estynedig

Am fwy o wybodaeth am beth mae bob modiwl yn ymdrin ag ef, gweler Trosolwg ar y Modiwl

Efallai bod modd i ni gynnig atebion hyfforddiant wedi’u teilwra’n arbennig i anghenion y Cynghorau, sydd angen hyfforddiant mewn meysydd nad ymdrinnir â nhw yn y modiwl safonol. Os hoffai eich Cyngor ymholi ynglyn â’r opsiynau posibl e-bostiwch

Gallwn gyflwyno unrhyw un o’r modiwlau safonol yn uniongyrchol i unrhyw un Cyngor neu grwp o Gynghorau a all gynnig lleoliad addas yn eu hardal. e-bostiwch.

Hyfforddiant i Glercod

Gweler y dudalen Hyfforddiant Clercod am wybodaeth ar y cymhwyster newydd Tystysgrif ILCA - Cyflwyniad i Weinyddiaeth Cynghorau Lleol a'r ‘Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol (Cymru)’ (CiLCA). 

SLCC