Ateb Gofynion Hyffordi Eich Cyngor

Yn ychwanegol at argaeledd y rhaglen hyfforddi safonol ar gyfer pob Cyngor yng Nghymru, mae Un Llais Cymru yn gallu cynnig rhaglenni hyfforddi wedi’u teilwra i Gynghorau, sy’n ymdrin â phob modiwl hyfforddi sydd wedi’u cyhoeddi.

Mae gan gynghorwyr sy’n dymuno dilyn yr opsiwn hwn gyfle i hyfforddi eu holl Gynghorwyr mewn un lleoliad. Y tâl am y dull yma o hyfforddi yw £375 yn ogystal â threuliau’r hyfforddwr (fesul modiwl), gyda’r Cyngor yn darparu lleoliad yr hyfforddiant. I leihau’r gwariant, mae rhai Cynghorau wedi dod at ei gilydd mewn grwp gyda Chynghorau cyfagos i rannu’r costau sydd yna. Gall Cynghorau llai leihau eu costau drwy hawlio’r lleihad bwrsariaeth. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn yr opsiwn hwn, cysylltwch â ni at Un Llais Cymru, 24c Stryd y Coleg, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 3AF, ffoniwch 01269 595400 neu ebost