Cyfeiriadur Cyflenwyr

Croeso i dudalennau ein Cyfeiriadur Cyflenwyr.
Dywedodd aelod gynghorau wrthym y byddai gallu troi at un pwynt gwybodaeth canolog wrth geisio cael gafael ar wasanaethau yn eu cymuned yn fantais fawr - yn enwedig pan mae angen tri dyfynbris i sicrhau gwerth am arian ac i gydymffurfio â Rheolau Sefydlog. Rydym wrthi’n paratoi cyfeiriadur o wasanaethau lleol a chenedlaethol i helpu cynghorau; gwasgwch ar Cyflenwyr Presennol
i weld beth sydd gennym hyd yn hyn.

Byddem yn falch pe bai aelod gynghorau yn rhoi gwybod inni am unrhyw gyflenwyr gwasanaethau o safon uchel y maen nhw’n eu defnyddio fel y gallwn eu gwahodd i gymryd rhan. Cysylltwch â’n prif swyddfa ar 01269 595400 neu e-bostiwch

Cyflenwyr gwasanaethau
Mae gennym 735 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru, sef 242 yn y Gogledd, 184 yn y De a 309 yn y Canolbarth a’r Gorllewin - os hoffech hysbysebu ar ein gwefan mae croeso ichi gysylltu â’n prif swyddfa ar 01269 595400 a gallwn drafod eich gofynion. Wedi ichi lenwi ffurflen fer fe wnawn ni y gweddill.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Cyfleoedd Nawdd