Cyflenwyr Presennol

Deddfwriaeth Pensiwn Gweithle/Awto Ymrestru
 
Bancio
CCLA/The Public Sector Deposit Fund
Mae CCLA wedi rheoli cronfeydd awdurdodau lleol ac elusennau am fwy na 50 mlynedd ac mae Ymddiriedolaeth Buddsoddiadau Cilyddol yr Awdurdodau Lleol yn rhan berchennog arno. Fe’i sefydlwyd i hyrwyddo rheolaeth dda ar gronfeydd ar gyfer cleientiaid awdurdodau lleol. Sefydlwyd Cronfa Ernes y Sector Cyhoeddus ar gais y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn dilyn yr argyfwng bancio yng Ngwlad yr Ia. Mae’n cynnig datrysiad cyfradd cystadleuol, mynediad cyfleus, cost isel ar gyfer arian awdurdodau lleol. Mae hefyd yn cynnig tryloywder llwyr, caiff ei fonitro a’i arwain gan y sector cyhoeddus, ac mae ganddo gadeirydd annibynnol a bwrdd o arbenigwyr yn cynnwys CIPFA. Mae CCLA Investment Management Ltd yn cael eu hawdurdodi a’u rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

One Angel Lane, Llundain/London, EC4R 3AB
0207 4896028
Arbenigwyr TAW Centurion
Mae Centurion yn dîm profiadol ac arobryn o arbenigwyr TAW, ac mae pob un o’i aelodau technegol wedi gweithio i un neu ragor o’r 4 Mawr, ym myd diwydiant yn uwch reolwyr/cyfarwyddwyr TAW ac mae gan bob un ohonynt gefndir gyda HMRC.
Delio â Throsglwyddo Asedau Cymunedol, cymryd cyfrifoldeb am reoli asedau neu wasanaethau yn y sector cyhoeddus, prosiectau gwariant cyfalaf mawr – mae’r materion hyn yn aml yn codi cwestiynau TAW ar draws y sector. Pe bai cwestiynau TAW o’r fath yn codi, mae Centurion VAT yn gwmni Cymreig, ac mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bryste. Mae gennym brofiad penodol ym maes TAW i awdurdodau lleol, ac rydym wedi delio â chynghorau o bob maint er 1998.
Yn ogystal â chymorth TAW, mae tîm Centurion hefyd yn darparu digwyddiadau hyfforddiant penodol ar TAW ar gyfer y sector ac yn cynnig llinell gymorth bwrpasol ar TAW i ateb ymholiadau ad hoc gan Awdurdodau Lleol. Er mwyn cael mwy o wybodaeth benodol am TAW i awdurdodau lleol, ewch i’n gwefan: www.centurionvat.com neu ffoniwch Louise Gray ar 01633 415390

Er mwyn cael ein cylchlythyr technegol chwarterol ar TAW, danfonwch e-bost at: merle.bethell@centurionvat.com
Merlin House, Rhif 1 Parc Busnes Langstone, Casnewydd. NP18 2HJ
01633 415390
 
Offer Chwarae
Eibe Play
Bu Eibe yn gosod llecynnau chwarae dychmygus ledled gwledydd Prydain am dri degawd. Gan weithio gyda chynghorau lleol, ysgolion ac atyniadau hamdden, rydym yn cynhyrchu llecynnau chwarae hir-oes ar gyfer plant o bob oed. Mae ein hethos amgylcheddol wedi’n galluogi i ennill Gwobr Llysgennad Byd Gwyrdd ar gyfer 2015 ac rydym yn dal i chwilio am ffyrdd blaengar o ddatblygu ein Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol. Mae gwasanaeth cwsmer hefyd yn hollbwysig inni. Rydym bob tro’n rhoi anghenion ein cleientiaid yn gyntaf, a gwnawn lawer o bethau yn rhad ac am ddim fel bod eich cynllun yn gweithio mor hwylus ag y bo modd. Cynhwyswn Gyngor, Ymgynghoriad, Dyfynbrisiau a syniadau Dylunio ym mhopeth a gynigiwn - heb anghofio ein portffolio gwych o gynhyrchion… mae presenoldeb eibe yng Nghymru wedi tyfu’n sylweddol dros y 18 mis diwethaf; ewch i’n gwefan i gael mwy o wybodaeth.
Forsyths Home Farm, A3 By-pass road, Godalming, Surrey, GU8 6AD
01483 813834
 
Hysbysfyrddau/Arwyddion
 
Gwefannau/Copïo Data & Ebyst
Vision ICT
Vision ICT yw prif ddarparydd gwefannau i’r sector cynghorau lleol, ac rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau e-bost, Holiaduron Ar-lein a Chopïo Data.

Rydym yn fusnes teuluol, ac mae gennym fwy na 15 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau TG o safon a lefel uchel o gefnogaeth i gynghorau lleol. Erbyn hyn, rydym yn gweithio gyda mwy na 400 o gynghorau, ac mae dros 90 o’r rhain yn gynghorau cymuned a thref ledled Cymru. Rhoddodd hyn lefel o ddealltwriaeth inni sydd ond ar gael gan ychydig iawn o gwmnïau. Rydym yn deall anghenion eich cyngor o bob safbwynt, a gallwn weithio gyda chi i roi ichi’r wefan yr ydych ei heisiau, ei hangen ac y gallwch ddibynnu arni.

Mae’r byd TG yn newid yn gyson, a chan fod mwy a mwy o wefannau’n cael eu defnyddio ar ffonau symudol mae Vision ICT yn gallu cynnig gwefan gwbl ‘ymatebol’ i’ch cyngor.

Mae Vision ICT Ltd yn gweithio mewn partneriaeth agos ag Un Llais Cymru.
Cysylltwch â Maggie neu Nigel: 1 Southernhay West, Caerwysg/Exeter, Dyfnaint/Devon EX1 1JG.
01392 669497