Ymgynghoriaeth

Mae Un Llais Cymru yn gallu cynnig nifer o wasanaethau ymgynghoriaeth gwahanol i aelod gynghorau a ddarperir gan bobl broffesiynol cymwysedig. Mae’r gwasanaethau ar gael trwy gyfrwng y Saesneg a gellir eu crynhoi fel a ganlyn:

Adnoddau Dynol a Chyfraith Cyflogaeth
Ymgynghorydd: Paul Egan a Brian Kultschar

  • Adolygu polisïau Adnoddau Dynol a chynllunio polisïau cyflogaeth pwrpasol i gynghorau
  • Cyngor penodol a chefnogaeth ar bob mater Adnoddau Dynol, gan gynnwys materion disgyblaeth, achwyniadau, diswyddiadau ac absenoldeb salwch
  • Gweithredu’n gynghorydd proffesiynol i Baneli Apeliadau cynghorau
  • Darparu gwasanaeth ymchwilio allanol i achosion disgyblaeth difrifol
  • Paratoi cytundebau setlo mewn achosion priodol
  • Darparu gwasanaethau cyflafareddu i gynghorau sydd mewn gwrthdaro gyda gweithiwr
  • Cymorth gyda dewis staff, gan gynnwys paratoi disgrifiadau swyddi, manylebau gweithwyr a pharatoi profion asesu
  • Cymorth gyda pharatoi ar gyfer tribiwnlysoedd cyflogaeth
  • Paratoi a chyflwyno cyrsiau hyfforddiant pwrpasol


Datblygu Datganiad ar Gynlluniau Lle a Lles
Ymgynghorydd:
Chris Ashman MSC MIED

  • Llunio proffiliau data lleol
  • Ymarferion Ymgysylltu Cymunedol
  • Paratoi Cynlluniau Lle yn cyflwyno safbwyntiau lleol ar ddatblygiadau arfaethedig ac anghenion economaidd, cymdeithasol a gwasanaethau amgylcheddol
  • Ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau prif ffrwd
  • Cael gafael ar gyllid i gyflawni gweithredoedd lleol
  • Paratoi datganiadau Llesiant ac adroddiadau cynnydd blynyddol

    Iechyd, Diogelwch a Lles
    Ymgynghorydd – Jeff Berriman CMIOSH Cert. Ed. Dip. I.I.M. Dip. R.S.A

    Adolygu’r seilwaith polisi presennol a chynllunio polisïau a gweithdrefnau pwrpasol
    Cynnal asesiadau risg a darparu gweithdrefnau i gefnogi’r canfyddiadau
    Pob agwedd o gyngor ar iechyd, diogelwch a lles
    Darparu hyfforddiant pwrpasol

    Cwestiynau i’w gofyn fel cyngor

    A oes gennych bolisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig?
    A oes gennych asesiadau risg tân ysgrifenedig ar gyfer eich adeiladau?
    A ydych yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diwygio Rheoliadau Tân?
    A yw staff wedi cael eu hyfforddi ac yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau iechyd a diogelwch?
    A ydych wedi cynnal asesiadau risg ar gyfer eich gweithgareddau?

    Gall ein Hymgynghorydd gynorthwyo gyda’r holl faterion hyn a gall gynghori cynghorau ar eu holl gyfrifoldebau o ran iechyd a diogelwch.



Er mwyn cael mwy o fanylion, gan gynnwys costau, cysylltwch â Mr Paul Egan,
Dirprwy Brif Weithredwr a Rheolwr Adnoddau.
Danfonwch e-bost pegan@onevoicewales.wales