Dod yn Gynghorydd

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth sylfaenol ar swyddogaeth cynghorau cymuned a thref, a sut i ddod yn gynghorydd.

Mae Un Llais Cymru yn awyddus i hybu mwy o gyfranogiad mewn democratiaeth leol, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â'r syniad o bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol neu leol. Fodd bynnag, er mwyn cynnal etholiad, mae angen mwy o ymgeisyddion nag o seddi i’w llenwi, ac felly mae’n bwysig iawn fod unigolion yn dod i’r blaen i sefyll fel ymgeiswyr. Isod, mae dolenni pedair taflen sy’n rhoi mwy o wybodaeth ar ddod yn gynghorydd. Dylai’r rhain roi’r holl wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen arnoch.

Dewch yn Gynghorydd Lleol yn 2017
Canllaw i Gynghorau Cymuned a Thref a Rôl Cynghorwyr Cymuned a Thref

Beth yw cynghorau cymuned a thref?
Mae’r daflen hon yn disgrifio’r hyn y mae cynghorau cymuned a thref yn ei wneud.

Dod yn gynghorydd
Mae’r daflen hon yn amlygu beth mae cynghorwyr yn ei wneud, a'r amser sydd ei angen.

Ydw i’n gymwys?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gymwys, ond mae’r daflen hon yn rhoi’r manylion.

Sut mae dod yn gynghorydd?
Iawn - nawr eich bod yn gwybod y pethau sylfaenol, mae’r daflen hon yn amlygu sut mae’r broses etholiadol yn gweithio, a beth sydd angen i chi ei wneud i fod yn ymgeisydd. Pob lwc!