HandsCostau Byw

Cymorth gyda’r Argyfwng Costau Byw

Sefydlwyd prosiect argyfwng costau byw Un Llais Cymru i gynorthwyo Cynghorau Cymuned & Thref i roi mwy o gefnogaeth i gymunedau er mwyn goresgyn yr heriau a gafodd eu creu wrth i’r argyfwng costau byw waethygu.

Pam Mae’n Bwysig

Mae’r argyfwng costau byw yn dal i waethygu, ac yn arwain at fwy o dlodi a phwysau ariannol. Cynghorau Cymuned & Thref sydd agosaf at y bobl hynny sydd fwyaf bregus. Cafodd gwasanaethau a chefnogaeth ryfeddol eu darparu yn barod. Mae Un Llais Cymru yn awyddus i gefnogi Cynghorau i barhau â’u gwaith da i helpu’r sawl sy’n wynebu’r heriau anoddaf.

Beth Ddywedoch Chi Yr Hoffech Gael Cymorth Ar Ei Gyfer

Ar sail eich adborth, rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu a darparu adnodd ar-lein cynhwysfawr ar yr Argyfwng Costau Byw ar gyfer Cynghorau Cymuned & Thref. Bydd yr adnodd hwn yn darparu canllawiau, cyngor, hyfforddiant, ac astudiaethau enghreifftiol sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y meysydd penodol hyn:

· Lleoedd Cymunedol & Ardaloedd Cynnes/Twym
· Bwyd
· Iechyd & Llesiant
· Dillad & Ail-bwrpasu
· Budd-daliadau, Rheoli Dyledion & Chyllidebu
· Trafnidiaeth

Sut allwn eich cefnogi

Rydym eisiau darparu cyngor, canllawiau, ac offerynnau sy’n berthnasol i bob Cyngor Cymuned & Thref. Rydym yn gwerthfawrogi fod gan rai cynghorau fwy o adnoddau nac eraill er mwyn ymateb i’r argyfwng costau byw. Byddwn yn sicrhau bod adnoddau ar gael y gall pob Cyngor Cymuned & Thref eu defnyddio. Rydym yn gobeithio darparu:

Adeiladu & Dysgu Sgiliau – hyfforddiant costau byw, gweminarau, a gweithdai gan gynnwys mewnbwn gan gydweithwyr o gynghorau eraill ar fentrau llwyddiannus a gyflwynwyd yn eu cymunedau nhw.

Adnoddau Ar-lein – canllawiau ‘sut i’, astudiaethau enghreifftiol, adnoddau cyfeirio-mlaen, a phecynnau gwaith.

Cysylltu a Chydweithio – ymunwch â rhwydwaith ar-lein, er mwyn cysylltu â chynghorau eraill, rhannu profiadau, cydweithio ar brosiectau, ac adeiladu partneriaethau gwerthfawr yn eich cymunedau.

Eiriolaeth & Chanllawiau Polisi – canllawiau & chyngor ar weithio’ch ffordd trwy fframweithiau cyfreithiol & rheoleiddiol i gyflwyno mentrau a gweithgareddau cymunedol. Rydym hefyd eisiau gofalu fod Cynghorau Cymuned & Thref yn cael cydnabyddiaeth am yr holl waith anhygoel sy’n cael ei wneud.

Cysylltwch

Rhannwch gyda ni y camau rydych yn eu cymryd yn barod i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw yn eich ardaloedd. Rydym yma i gynnig arweiniad, a chefnogaeth, er mwyn ichi rannu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn barod. Mae eich mewnbwn yn amhrisiadwy yn llywio ein rhaglen a sicrhau ein bod yn diwallu eich anghenion yn effeithiol, felly cofiwch gysylltu os oes unrhyw beth rydych ei angen.

Cofiwch fod croeso ichi estyn allan at y tîm prosiect Argyfwng Costau Byw yn CoLC@unllaiscymru.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych!

Mewnwelediadau Allweddol Un Llais Cymru Arolwg Argyfwng Costau Byw