Ymunwch â’n Digwyddiadau Gweminar
Annwyl Gynghorau Cymuned & Thref,
Rydym yn falch o rannu rhai diweddariadau pwysig gyda phob un ohonoch.
Rydym wedi trefnu cyfres o Weminarau ac mae croeso ichi gymryd rhan ynddynt. Bydd pob Gweminar yn edrych ar un o’r prif feysydd Argyfwng Costau Byw a amlygwyd yn faes angen yn eich cymunedau. Mae eich adborth trwy’r Arolwg Costau Byw a’r sesiynau adborth a drefnwyd gennym wedi bod yn allweddol wrth lunio’r sesiynau hyn i fynd i’r afael â’r Heriau Costau Byw pwysicaf y mae eich cymunedau yn eu hwynebu.
'A Yw’r Argyfwng Costau Byw Drosodd?'
Dydd Iau 23 Mai 2024 10-11.30am (Digwyddiad yn y gorffennol)
Atebwn hwn yn y gyntaf o’n Gweminarau Argyfwng Costau Byw a chawn gwmni ein Prif Weithredwr Lyn Cadwallader. Byddwn yn rhannu rhai o’r prif ystadegau costau byw gan Cyngor Ar Bopeth & mewnwelediadau o’ch ymatebion i’r arolwg. Rydym yn falch hefyd o gynnwys siaradwyr gwadd o Gyngor Tref Blaenafon & Chyngor Cymuned Cwm Darran fydd yn rhannu eu profiadau a’u gwybodaeth amhrisiadwy am y camau cefnogi a gymerwyd gan eu Cynghorau i fynd i’r afael â’r heriau parhaus hyn.
Adnoddau o'r weminar
Cyflwyniad Tim Prosiect Argyfwng Byw
Cyflwyniad Mentrau Cymunedol Cygnor Tref Blaenafon
Posteri Digwyddiadau Cymunedol Cygnor Tref Blaenafon
Cyflwyniad Mentrau Cymunedol Cygnor Cymuned Dyffryn Darran
'Ai Costau Argyfwng byw Drosodd' Recordio Gweminar
'Arweiniad i Drafnidiaeth Gymunedol'
Dydd Mawrth 18 Mehefin 2024 2.00-3.30pm - (Digwyddiad yn y gorffennol)
Ymunwch â ni ar daith i fyd Trafnidiaeth Gymunedol gyda siaradwyr o’r Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol a Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi. Bydd cyfle hefyd i glywed astudiaethau enghreifftiol ysbrydoledig gan gynghorau fel eich un chi sydd wedi cyflwyno mentrau trafnidiaeth llwyddiannus.
Mae’r gweminarau hyn yn cynnig mwy na thrafodaethau; maen nhw’n darparu gwybodaeth a mewnwelediadau gwerthfawr. Ymunwch â ni i archwilio’r pynciau pwysig hyn, gan wella dealltwriaeth eich cyngor gyda chyngor arbenigol ac atebion ymarferol.
Adnoddau o'r weminar
Cyflwyniad Trafnidiaeth Gymunedol Cyngor Cymuned Clydogau Cellan
Cyflwyniad gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol
Arweiniad i Drafnidiaeth Gymunedol' Recordio Gweminar
'Canllaw i Ymgysylltiad Leuenctid'
Dydd Llun 8 Gorffennaf 2024 10.00am-11.30am - (Digwyddiad yn y gorffennol)
Bydd y siaradwr gwadd Tom Moses o Planed yn ymuno â ni, a byddwn hefyd yn clywed astudiaethau achos gan gynghorau fel eich un chi sydd wedi cymryd rhan yn llwyddiannus mewn gweithgareddau ymgysylltu ieuenctid a darparu gwasanaethau ieuenctid.
Adnoddau o'r weminar
Planed Youth Engage Presentation Tom Moses.pdf
Cyswlt Cynghorau – Trafnidiaeth Gymunedol
Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024 10.30am-12.00pm (Digwyddiad yn y gorffennol)
Gan fod Trafnidiaeth Gymunedol wedi profi i fod yn faes o ddiddordeb mawr i lawer ohonoch, byddwn yn archwilio'r pwnc hwn ymhellach trwy sesiwn 'Cyswllt Cynghorau’
Gall cyfranogwyr rannu
eu profiadau, heriau, a strategaethau effeithiol. Gobeithiwn feithrin cymuned o
gefnogaeth a datrys problemau ar y cyd.
Ymunwch â ni i
rannu profiadau, trafod heriau, a chael mewnwelediad gwerthfawr gan
gyd-aelodau'r cyngor.ARCHEBWCH
Emma & Angela
Un Llais Cymru: Tîm Argyfwng Costau Byw
CoLC@unllaiscymru.cymru