Ymgynghoriad Cod Ymarfer Ffeil Cyfeiriad Cod Post
Mae Postcomm wedi lansio ymgynghoriad ar newidiadau i God Ymarfer Ffeil Cyfeiriad Cod Post (Postcode Address File – PAF). Mae Un Llais Cymru yn ymwybodol yr hoffai nifer o gynghorau weld hen enwau’r siroedd yn cael eu tynnu o’r Ffeil Cyfeiriad Cod Post a dyma’ch cyfle i roi’ch barn chi.
Mae’r newidiadau a gynigir yn cynnwys:
- gwell gwybodaeth am sut mae cael help gyda’r Cod, sut all cwsmeriaid holi cwestiynau neu gwyno ac am waith Bwrdd Ymgynghorol y PAF
- cynnig eglurhad mwy manwl am pam, at ddibenion gweithredu, nad oes modd gwneud newidiadau i drefi post
- mynnu bod y sawl sy’n mynnu newid lleoliad neu god post yn cael gwybodaeth eglur am ffin y newid sydd i’w ystyried
- cael gwared â’r cyfeiriadau at Postwatch
- egluro y gall y Post Brenhinol wneud newidiadau oherwydd effeithlonrwydd yn ogystal ag am resymau gweithredol
- meini prawf pellach ar gyfer ceisiadau am newid a ddaw gan gwsmeriaid
- mynnu bod y Post Brenhinol yn cynghori, yn hytrach nag ymgynghori, ar newidiadau gan awdurdodau lleol (gan nad oes ganddo’r rhyddid i weithredu newidiadau o’r fath)
- gweithdrefnau newydd i hysbysu Postcomm am yr adborth sy’n dod o bleidleisiau
- annog defnyddwyr PAF i ddefnyddio fersiynau cywir, diweddar o PAF
- gosod dyddiad arfaethedig yr adolygiad nesaf o’r Cod Ymarfer fel Medi 2014.
Gofynnir am farn rhan-ddeiliaid hefyd ar y defnydd o wybodaeth sir yn PAF.
Gwahoddir rhan-ddeiliaid i gynnig sylwadau ar y newidiadau arfaethedig a/neu awgrymu newidiadau eraill yn ystod yr Ymgynghoriad.
Mae’r Ymgynghoriad ar agor am ddau fis a bydd yn cau ar 28 Gorffennaf 2009.
I gael dogfennau cysylltiedig, ewch i wefan Postcomm yn:

