Y chwilio'n dechrau am yr Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd nesaf

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn chwilio am 6 o bobl ifanc frwdfrydig rhwng 14 ac 18 oed o bob cwr o Gymru i fod yn Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd ar gyfer 2010.

Bydd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle i 6 pherson ifanc fod ar y teledu, ysgrifennu colofn bapur newydd a blog eu hunain. Bydd yr Hyrwyddwyr yn mynychu digwyddiadau yn eu cymunedau lleol a ledled Cymru i son am y camau cadarnhaol y gall pobl eu cymryd yn eu bywyd bob dydd er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd

Meddai Cerith Rhys Jones, un o Hyrwyddwyr 2009:

“Mae rhaglen Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Cymru yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth i’r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Rydw i wedi siarad â llawer o wleidyddion a phobl fusnes pwysig eleni, ond rydw i hefyd wedi gweld beth sy’n digwydd lle rydw i’n byw. Mae gwneud hyn wedi agor cymaint o ddrysau! Rydw i wedi mwynhau’r flwyddyn hon yn fawr iawn, ac rydw i’n annog pob person ifanc sydd â diddordeb yn y newid yn yr hinsawdd i wneud cais.”

I weld hanes Hyrwyddwyr 2009  ac am fwy o wybodaeth ynghylch y cystadleuath, ewch i www.cymruoltroedcarbon.gov.uk

Y dyddiad cau yw dydd Mercher 18 Tachwedd – felly brysiwch a gwnewch gais heddiw!

Gweithredoedd Dogfen