Gofynnodd Cynghorau Cymunedol iddynt am eu barn ynglŷn ag Ymchwil Biowyddoniaeth

Yn rhan o fwriad Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu’n rym rhyngwladol ym maes datblygu cynnaladwy, crewyd Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), sefydliad mwyaf newydd a mwyaf ei faint Prifysgol Aberystwyth drwy uno, fis Ebrill 2008, y Sefydliad Gwyddorau Biolegol a Gwledig gyda Sefydliad Ymchwil Porfeydd a’r Amgylchedd (IGER) y BBSRC.

Bydd IBERS yn cystadlu gyda goreuon sefydliadau bio-wyddonol y byd, a rhan bwysig o’i incwm £20miliwn fydd cyllid ymchwil bio-danwydd ac adnewyddu biolegol;  maeth a phrosesu bwyd; yr amgylchedd – llygredd a defnydd y tir; a datblygiad blaengaredd amaethyddol.  Disgwylir y bydd ymchwil llwyddiannus yn y meysydd hyn yn gwella bywyd pobl ledled y byd, ac hefyd fusnesau a’r amgylchedd.

Er mwyn sicrhau perthnasedd IBERS i Ganolbarth Cymru, gwneir astudiaeth dichonoldeb ar anghenion y dyfodol ym meysydd gweithgareddau ymestynnol a datblygiad busnes gan BioGanolfan Aber, a fu ynghlwm a hynny dros y 10 mlynedd diwethaf ac a gynhwysir yn awr dan ymbarel IBERS.

Mae IBERS ddiddordeb mewn mesur lefel ymwybyddiaeth y gymuned am y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan IBERS a lefel diddordeb cymunedau lleol mewn defnyddio canfyddiadau ymchwil yn y bio-wyddorau i’w busnesau ac i fywyd dyddiol y cymunedau yr ydym yn byw ynddynt.

O ganlyniad, cyflwynir arolwg syml ar gyfer Cynghorau Cymuned drwy wefan Un Llais Cymru lle gofynnir i Gynghorau Cymuned lenwi a dychwelyd holiadur un-dudalen, naill ai yn Gymraeg neu Saesneg, gan ddangos lefel bresennol gwybodaeth y Cyngor am IBERS, eu cysylltiad gyda’r sefydliad ei hun neu sefydliadau sy’n perthyn iddo, ac hefyd lefel diddordeb y Cyngor mewn cael perthynas yn y dyfodol gydag IBERS yn ymwneud ag ymchwil a’r gymuned yn cymryd rhan ynddo ac yn ei ganlyniadau.

Wedi eu cwblhau, anfonwch y ffurflenni at:

Tim Williams
Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori
Prifysgol Aberystwyth
Y Ganolfan Delweddu, Penglais, Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BF

Ebost: tdw@aber.ac.uk

Gyda llawer o ddiolch am eich cydweithrediad

Gweithredoedd Dogfen