Un Llais Cymru yn cymeradwyo gwersi arfer dda i gynghorau
Mae Un Llais Cymru, y corff cynrychioliadol i gynghorau cymuned a thref, yn cymeradwyo’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer cynghorwyr.
Amlygodd yr adroddiad sawl gwendid posib yn nhrefniadau llywodraethu cynghorau ac argymhellodd bedair gwers arfer dda y dylai cynghorau eu dilyn. Mae Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) hefyd yn cyflwyno adnodd ar-lein y gall cynghorau ei ddefnyddio.
Meddai Simon White, Prif Weithredwr Un Llais Cymru:
“Dyrnaid yn unig o’r 735 o gynghorau gafodd eu heffeithio gan faterion twyll dros y blynyddoedd diwethaf ond mae’n bwysig dysgu unrhyw wersi i osgoi unrhyw broblemau tebyg mewn mannau eraill. Mae Un Llais Cymru wedi bod yn gweithio’n barod gyda SAC i godi ymwybyddiaeth cynghorwyr o’u cyfrifoldebau ac mae wedi cyhoeddi, gyda chymorth Llywodraeth y Cynulliad, y rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr gyntaf erioed i gynghorwyr yng Nghymru. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth o bob math ar ein gwefan - www.unllaiscymru.org.uk.”
“Ar yr un pryd, ac fel y dywed yr adroddiad, mae’n rhaid inni gofio fod cynghorwyr cymuned a thref yn rhoi eu hamser yn gwbl wirfoddol er lles y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae clercod yn cael eu cymell gan yr un awydd cryf i wasanaethu’r cyhoedd ond fel mewn unrhyw agwedd ar fywyd, mae’n anorfod y cewch un neu ddau unigolyn sy’n manteisio ar yr ymddiriedaeth a roddir ynddynt.”
Mae Un Llais Cymru yn cynrychioli buddiannau cynghorau ar Grŵp Cyswllt Archwilio Cynghorau Lleol, dan gadeiryddiaeth SAC, ac mae hefyd yn gallu cynghori cynghorau am unrhyw bryderon allai fod ganddynt yn deillio o’r adroddiad.
Datganiad i'r Wasg
Addroddiad Llywodraethu Da - Arfer Da

