Her Fawr i Gymunedau Cymru – Allai eich pentref chi gipio’r wobr fawr eleni?
Wedi iddi gael ei lansio ym mis Ionawr, mae cynnydd sylweddol yn y gwobrau sydd ar gael yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru eleni yn sicr o danio awydd a dychymyg cymunedau, wrth i fwy a mwy ohonynt geisio ennill cyfran o’r gronfa wobrau newydd gwerth £15,000. Yn ogystal â’r cynnydd yng ngwerth y gwobrau, mae trefnwyr y gystadleuaeth hefyd wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cynigion – tan ddydd Gwener 29 Mai.
Mae Pentref y Flwyddyn Calor yn agored i gymunedau ledled Cymru sydd â phoblogaeth o 5,000 neu lai. A hithau’n cael ei threfnu bob blwyddyn gan y cwmni cyflenwi nwy potel Calor, mae’n gyfle i chwilio am y cymunedau mwyaf bywiog ac ymroddgar yng Nghymru a, chyda phwyslais ar gynaliadwyedd, mae’r gystadleuaeth yn gwobrwyo cymunedau sy’n ceisio gwella bywyd i bobl o bob oed.
Diolch i’r cynnydd yn y gronfa wobrau, bydd un enillydd i Gymru yn derbyn o leiaf £9,000 sydd wedyn yn gallu cael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol. Bydd enillwyr rhanbarthol hefyd yn cael eu cydnabod, ac mae nifer o wobrau categori ar gael hefyd. Mae cyfanswm y gronfa wobrau yn £15,000.
Mae’r gystadleuaeth yn beirniadu cymunedau mewn pedwar maes: Cymuned - gwell lle i fyw; Busnes - gwell lle i weithio; Cynaliadwyedd - gwell dyfodol; a Chyfathrebu - creu cysylltiadau. Mae cyfle hefyd i gymunedau ddweud wrth y beirniaid am yr anawsterau y maent wedi’u hwynebu’n ddiweddar, ac am y camau a gymerwyd i’w datrys neu i’w cadw dan reolaeth.
Mae rheolydd y gystadleuaeth yn Calor, Suzanne Weir, yn esbonio ymhellach: “Mae’r adborth a gawsom gan y cymunedau a gymerodd ran yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd wedi dangos, heblaw am y gwobrau ariannol, fod cymryd rhan yn cynnig manteision enfawr ynddo’i hun. Mae’n gyfle i roi ‘prawf iechyd’ i’ch cymuned ac i edrych yn fanwl ar yr hyn rydych yn ei wneud yn wirioneddol dda, tra ar yr un pryd yn rhoi sylw i feysydd lle y gellid gwella pethau.
“Fodd bynnag, yn Calor gwyddom hefyd faint o amser ac ymdrech mae cymunedau’n eu rhoi i godi arian ar gyfer prosiectau cymunedol. Gyda’r cynnydd yn y gwobrau, gallwn erbyn hyn gynnig symiau sylweddol o arian gwobrau ac rydyn ni’n siŵr y bydd hyn yn annog mwy nac erioed i gymryd rhan.”
Bydd y cynigion a dderbynnir erbyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener 29 Mai, yn cael eu rhannu’n un o dri rhanbarth – y Gogledd, y De, a’r Canolbarth & Gorllewin. Bydd y beirniaid yn edrych gyntaf ar y cynigion ysgrifenedig ac yna bydd nifer o ymgeiswyr yn mynd ymlaen i gael eu beirniadu ymhellach pan fydd timau o feirniaid yn ymweld â phob cymuned ac yn dyfarnu’r gwobrau.
Mae gwobrau ar gael i un enillydd ym mhob categori, yn ogystal ag enillydd cyffredinol i bob rhanbarth ac, yn y pendraw, enillydd i Gymru, teitl a enillwyd gan bentref Froncysyllte o ardal Wrecsam – neu Fron fel y’i gelwir yn lleol - yn 2008.
Gellir lawrlwytho’r ffurflen gais o wefan y gystadleuaeth yn www.calorvillageoftheyear.org neu mae ar gael gan Brian Challis ar 01962 629768.
Er mwyn cael gwybod mwy am Bentref y Flwyddyn Calor ewch i wefan y gystadleuaeth yn www.calorvillageoftheyear.org
Yn 2009, mae Pentref y Flwyddyn Cymru Calor yn cael ei gefnogi gan nifer o fudiadau, gan gynnwys Un Llais Cymru ac Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig.

