Helpwch eich cymuned i baratoi i newid i ddigidol

Ar 31ain Mawrth 2010 bydd Cymru’n dod yn genedl ddigidol gyntaf y Deyrnas Unedig pan fydd trosglwyddydd Gwenfô sy’n darlledu i Gaerdydd a de ddwyrain Cymru’n cwblhau ei newid trosodd i signal digidol. Mae Un Llais Cymru’n gweithio gyda Digital UK i ddarparu gwybodaeth i gynghorau cymunedol a threfol fel y gallan nhw roi cyhoeddusrwydd i’r hyn sy’n digwydd yn lleol yn ystod y broses newid trosodd.

Mae nifer o bobl eisoes yn mwynhau teledu digidol trwy eu herial (Freeview), trwy gyfrwng lloeren, trwy gyfrwng cebl mewn rhai ardaloedd neu trwy fand llydan. Ond, mae’n bwysig i wneud yn siŵr bod pob set deledu a recordydd a ddefnyddir ar ôl y newid trosodd yn gallu gweithio gyda signalau digidol. Bydd pob cartref bron yn gallu derbyn tua 20 o’r sianeli Freeview mwyaf poblogaidd, o’i gymharu â’r pump sydd ar gael ar hyn o bryd ar deledu analog. Bydd nifer o gartrefi’n gallu derbyn dros 40 o sianeli. Mae gwybodaeth am, a help gyda’r newid trosodd ar gael ar wefan Digital UK lle gall trigolion ddod o hyd i opsiynau ar gyfer newid trosodd i ddigidol, darganfod a ydyn nhw’n byw mewn ardal sydd ar hyn o bryd yn gallu derbyn teledu digidol trwy gyfrwng erial, a darganfod hefyd o ba grŵp o drosglwyddyddion* maen nhw’n  fwyaf tebygol o fod yn derbyn eu signal teledu analog.  Os nad oes gennych gyfrifiadur neu fodd o gael gafael ar y rhyngrwyd, mae gwybodaeth hefyd ar gael ar y ffôn, dim ond i chi ffonio llinell gymorth Digital UK ar 08456 50 50 50. Mae help a chymorth ar gael yn y Gymraeg trwy alw 08458 48 48 48.

Am fwy o wybodaeth ewch i: http://www.digitaluk.co.uk/when_do_i_switch/welsh_wales/

Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol

Cafodd y Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol ei sefydlu gan y Llywodraeth ac mae’n cael ei gynnal gan y BBC. Ei bwrpas yw gwneud teledu digidol yn haws i bobl hŷn a rhai anabl trwy newid un o’u setiau teledu i ddigidol yn y cyfnod cyn y newid trosodd i deledu digidol yn eu hardal. Bydd pobl yn cael cynnig help os ydyn nhw’n 75 neu’n hŷn, os ydyn nhw wedi eu cofrestru’n ddall neu’n rhannol ddall, yn gymwys i dderbyn rhai budd-daliadau anabledd neu os ydyn nhw wedi byw mewn cartref gofal am chwe mis neu hirach. Mae tua hanner miliwn o bobl yn gymwys i gael y Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol yng Nghymru. Bydd tua hanner miliwn arall y tu allan i’r wlad hefyd yn derbyn gwybodaeth trwy’r post oherwydd mae’n bosib eu bod yn derbyn eu rhaglenni teledu o drosglwyddydd gaiff ei effeithio yng Nghymru. Bydd pobl sy’n gymwys yn rhanbarth Cymru yn cael cynnig bod bocs pen set Freeview yn cael ei osod ar un o’u setiau teledu, ar gost gymorthdaledig o £40, neu am ddim os ydyn nhw’n derbyn budd-daliadau incwm. Bydd y cyfarpar yn eu galluogi i weld dros 20 o sianeli gan gynnwys yr holl sianeli gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r cymorth hefyd yn cynnwys arddangosiad o sut i ddefnyddio’r cyfarpar, gwirio’r erial a’i newid am un gwell os oes angen yn achos y rhai sy’n berchen ar eu herialau eu hunain, a Llinell Gymorth y gellir ei ffonio os am gyngor tra’n dod i arfer a’r newid. Os oes yna bobl cymwys na all dderbyn eu teledu digidol trwy gyfrwng erial, fe fyddan nhw’n cael cynnig cyfarpar lloeren oddi wrth freesat oddi wrth y BBC ac ITV dan yr un amodau.

Am fwy o wybodaeth ewch i:
http://www.helpscheme.co.uk/cy

Digital Outreach Ltd

Mae Digital Outreach Cyf. yn bennaf yn targedu pobl sydd ddim yn gymwys i dderbyn cymorth dan y Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol, ond a fyddai efallai’n cael budd o wybodaeth a chyngor ychwanegol. Mae Digital Outreach Cyf. yn gweithio’n agos gyda’r Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol (gyda eaga) a Digital UK i gynnig gwybodaeth ddiduedd am yr hyn mae pobl ei angen ei wneud i baratoi ar gyfer y newid trosodd i deledu digidol, a phryd mae angen iddyn nhw wneud hyn. Mae Digital Outreach yn cael help ymarferol gan elusennau lleol yn ardal pob trosglwyddydd, gan roi adnoddau iddyn nhw i helpu eu cymunedau lleol yn ystod y cyfnod newid trosodd trwy:

  • Dosbarthu defnyddiau gwybodaeth a chyngor i elusennau lleol a’u cleientiaid yn y cyfnod cyn y newid trosodd 
  • Cynnig hyfforddiant ar y newid trosodd i staff a gwirfoddolwyr elusennau lleol. 
  • Integreiddio gwybodaeth a chyngor ar y newid trosodd i mewn i weithgareddau’r sectorau gwirfoddol a chymunedol ac i ymweliadau cartref sydd eisoes yn digwydd lle bo hynny’n briodol.
  • Trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau yn y cyfnod cyn y newid trosodd a sesiynau galw i mewn ar adeg y newid trosodd 

Am fwy o wybodaeth ewch i: http://www.digitaloutreach.org.uk/

Gweithredoedd Dogfen