Gwobrau am Bontio Diwylliannau
Grwpiau cymunedol lleol yn cael cyfle i ddisgleirio
Mae Gwobrau am Bontio Diwylliannau (ABC) yn rhoi cyfle unigryw i gymunedau lleol amlygu’r gwaith maen nhw’n ei wneud i godi pontydd rhwng diwylliannau a chymunedau gwahanol.
Mae’r manteision i grwpiau sy’n gwneud cais am y gwobrau yn cynnwys cyfle i fynychu cynhadledd undydd i hyrwyddo eu gwaith ac i feithrin cysylltiadau gyda grwpiau eraill. Bydd enillwyr y gwobrau am brosiectau a chynlluniau sy’n cael eu trefnu gan fudiadau o’r sectorau gwirfoddol a chymunedol yn derbyn tlws a gwobr ariannol.
Enillwyr 2008 oedd:
Gŵyl Shoreditch Ymddiriedolaeth Shoreditch (Pentref Rhyngwladol), sy’n annog cymunedau lleol i rannu eu diwylliant trwy’r celfyddydau.
Prosiect FolesHillfields Vision, sy’n cefnogi pobl i godi pontydd rhwng cymunedau trwy ddinasyddiaeth fyd-eang, arweinyddiaeth a phrosiectau adrodd storïau.
Prosiect Cysylltu Limeside a Clarkwell, sy’n annog pobl hen ac ifanc o ddwy stâd dai wahanol iawn i’w gilydd i gyfarfod ac i ffurfio cyfeillgarwch.
Gydag arian gan Sefydliad Baring ac o dan reolaeth y Sefydliad Cydlynedd Cymunedol (iCoCo), mae gan gynllun ABC 2009 bedwar categori:
- Prosiectau a chynlluniau sy’n cael eu rhedeg gan fudiadau o’r sectorau gwirfoddol a chymunedol a chanddynt incwm blynyddol dros £500,000.
- Prosiectau a chynlluniau sy’n cael eu rhedeg gan fudiadau o’r sectorau gwirfoddol neu gymunedol a chanddynt incwm blynyddol dan £500,000.
- Gwirfoddolwyr neu sefydlwyr mudiadau neu brosiectau o’r sectorau gwirfoddol neu gymunedol
- Mudiadau o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol sy’n cefnogi cynlluniau rhyng-ddiwylliannol
Rhaid i bob cais arddangos yr effaith gafodd prosiectau / cynlluniau a gwirfoddolwyr / sefydlwyr wrth hyrwyddo deialog rhyng-ddiwylliannol rhwng cymunedau gwahanol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 14eg Medi 2009. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwobrau ABC cysylltwch â Jennifer Tankard yn awards@bridgingcultures.org.uk
Ewch i www.bridgingcultures.org.uk neu ffoniwch 024 7679 5768 i gael mwy o wybodaeth.

