Gweinidog yn cyhoeddi cytundeb ar y cyd i fynd i’r afael â thlodi plant

Heddiw (dydd Iau 26 Mawrth) lansiodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol y Dr Brian Gibbons gytundeb ar y cyd ar dlodi plant gan alw ar sefydliadau yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru i’w lofnodi.

Mae’r cytundeb ar y cyd yn cyhoeddi ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i leihau tlodi plant ac mae’n nodi sut y gall sefydliadau eraill wneud eu cyfraniadau eu hunain.

Mae’n cefnogi’r Mesur arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd a gafodd ei gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 2 Mawrth. Os caiff y mesur ei basio, bydd yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru i nodi a chymryd camau i gynorthwyo gyda’r nod o ddileu tlodi plant erbyn 2020.

Bydd y cytundeb yn caniatáu i asiantaethau cyhoeddus Cymru, na fydd y ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt, lofnodi’r cytundeb er mwyn dangos eu bod hwythau hefyd yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant.

Ymunodd y Gweinidog â chynrychiolwyr o bob cwr o Gymru yn Ysgol Tonyrefail er mwyn gweld prosiect sy’n cynnig cyfleoedd chwaraeon i bob plentyn ac er mwyn llofnodi’r cytundeb. Dyma’r sefydliadau a lofnododd y cytundeb heddiw:

  • Un Llais Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Cydffederasiwn y GIG
  • Achub y Plant
  • Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Prosiect Ysgolion Greenhouse
  • Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân

Wrth annerch yn ystod y lansio, meddai’r Gweinidog:

Mae mynd i’r afael â thlodi plant a chryfhau’r cymorth i’r teuluoedd mwyaf anghenus ar frig rhestr blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rwy’n falch dros ben bod yr wyth sefydliad sydd yma heddiw wedi arwain y ffordd trwy fod y rhai cyntaf yng Nghymru i lofnodi’r cytundeb ar y cyd gan ymrwymo i’n helpu ni i ddileu tlodi plant ac i wella cyfleoedd bywyd i’r plant a’r teuluoedd hynny sydd fwyaf agored i niwed. Gobeithio y bydd rhagor yn llofnodi’r cytundeb yn y dyfodol.

Mae tlodi yn effeithio ar fywydau plant mewn llu o wahanol ffyrdd ac felly mae’r ateb hefyd yn un amlochrog. Bydd angen ymrwymiad ar ran sefydliadau ar hyd a lled Cymru i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i chwarae rhan lawn ym mywyd y gymuned. Mae’n amhosibl i unrhyw sefydliad gyflawni hynny ar ei ben ei hun.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn derbyn bod cyfrifoldeb arni i wneud ei gorau glas yn hyn o beth a bod ganddi rôl  oran darparu’r fframwaith strategol ar gyfer y camau sydd i’w cymryd. Hoffwn bwyso ar bob sefydliad yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol i ymuno â ni ac ymrwymo i helpu plant Cymru er mwyn rhoi mwy o hwb i’n hymdrechion i leihau effeithiau tlodi ac anfantais ar eu bywydau.

Yn y lansiad, dywedodd y Cynghorydd Hugh Patrick MBE, yn cynrychioli Un Llais Cymru:

 Mae Un Llais Cymru yn falch o fod yn gysylltiedig â’r cytundeb hwn ar leihau tlodi. Mae un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn dioddef gan dlodi ac yr ydym yn annog cynghorau tref a chymuned i wneud popeth y gallant i herio tlodi mewn ffyrdd arloesol.

 

Gweithredoedd Dogfen