Galw ar bob Prosiect Cymunedol sy’n wynebu anawsterau!

Dim digon o arian! Methu cael y cymorth sydd ei angen arnoch? Eisiau’r ddau a’r cyfle i fod yn rhan o 7 diwrnod o ffilmio llawn hwyl ar gyfer cyfres fawr newydd ar y teledu?.................wel dyma’ch cyfle!

Mae Ty Pennington, seren deledu fawr yn yr Unol Daleithiau sy’n enwog am wneud yr amhosib yn realiti, wedi croesi’r môr mawr i Brydain lle y mae ganddo genhadaeth newydd; codi hwyliau prosiect cymunedol sydd wedi colli’u ffordd, sydd wedi methu ymateb i ddatblygiadau newydd ac sydd angen chwistrelliad mawr o awch i adfer ei falchder lleol.

Wythnos yn unig sydd gan Ty i adfer llecyn cymunedol a fyddai fel arfer yn cymryd misoedd i’w wneud. Mae egni a brwdfrydedd diddiwedd Ty yn heintus ac ni allant fethu dod â’r gymuned a busnesau lleol at ei gilydd er mwyn gwneud i’r prosiect amhosib hwnnw ddigwydd. 

Ar ôl gorffen y gyfres deledu gyntaf lwyddiannus ynghynt eleni, Ty's Great British Adventure ar UKTV, mae Ty wrthi unwaith eto yn chwilio am y 2 brosiect haeddiannol nesaf. Boed yn barc, yn bwll, adeilad diffaith neu’n llecyn gwag, mae Ty eisiau clywed amdano.

Cysylltwch yn awr a rhowch wybod inni am y prosiect y buoch yn ceisio’i orffen ac efallai y gall Ty a’r criw gynnig help llaw mawr ei hangen, ac ar yr un pryd ffilmio’r cyfan ar gyfer cyfres deledu wythnos o hyd. Gyda’r bwriad o ffilmio ym mis Mai 09, mae’r chwilio am y prosiect perffaith hwnnw i’w gwblhau wedi cychwyn!

Danfonwch e-bost yn awr at tysadventure@twofour.co.uk i gael holiadur fydd yn eich helpu i ddweud mwy am eich prosiect cymunedol haeddiannol neu ymweliad http://www.twofourbroadcast.com/tys-big-british-adventure.asp

 

Gweithredoedd Dogfen