Gallai Cymru wneud eu deddfau ei hun i gryfhau cynghorau cymuned a thref

Awgrymodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddiweddar y dylid rhoi grymoedd i Gymru i alluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu i gryfhau’r sector cynghorau cymuned a thref. Mae hynny’n elfen allweddol yn y broses o weithredu’r argymhellion sy’n weddill o astudiaeth 2003 Aberystwyth i Rôl, Swyddogaeth a Photensial cynghorau cymuned a thref yng Nghymru a bydd yn golygu y gellir gwneud gwelliannau eraill i’r sector. Mae Un Llais Cymru eisoes wedi trefnu rhoi tystiolaeth i’r Cynulliad ym mis Hydref. Hefyd, yn dilyn cais gan Un Llais Cymru, mae’r Cynulliad wedi cytuno i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer sylwadau hyd at 30 Medi.

Byddai’r grymoedd yn cael eu rhoi ar ffurf Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) sy’n cyflwyno meysydd newydd y gall y Cynulliad ddeddfu ynddynt. Cyflwynwyd yr LCO drafft i’r Cynulliad gan Dr Brian Gibbons, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar y 14eg Gorffennaf (trowch at Ddadl Lawn y Cynulliad. Y cam nesaf yw y bydd yr LCO yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad a chan Bwyllgor Dethol San Steffan ar Faterion Cymreig. Bydd Pwyllgor Cyfansoddiadol Tŷ’r Arglwyddi hefyd yn cynnal archwiliad cyfreithiol manwl o’r Gorchymyn arfaethedig. Yn ogystal â’r gorchymyn ei hun, mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi paratoi  Memorandwm Esboniadol sy’n esbonio cefndir a chynnwys yr LCO. Mae pob cyfeiriad at gynghorau cymuned yn berthnasol yn yr un modd i gynghorau tref,

Crynodeb o’r LCO

Os yw’r LCO yn cael ei gymeradwyo gan y Cynulliad a’r Senedd, bydd yn ychwanegu 10 ‘mater’ newydd ym maes llywodraeth leol y gallai’r Cynulliad ddeddfu ynddynt. Yn benodol, byddent yn cael eu hychwanegu at Atodlen 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru (yn dilyn materion 12.1 i 12.7) a gellir eu crynhoi fel a ganlyn:

Mater 12.8 - byddai’n rhoi’r gallu i’r Cynulliad newid cyfansoddiad, strwythur a gweithdrefnau cynghorau lleol. Mae hyn i’w groesawu gan y bydd yn caniatáu’r Cynulliad i’w gwneud yn haws i ffurfio cynghorau cymuned ac yn anoddach iddynt gael eu diddymu (gan gyflawni dau o’r argymhellion a gytunwyd o Astudiaeth Aberystwyth).  Byddai hefyd yn rhoi’r grym i’r Cynulliad ddeddfu ar fater cynrychiolwyr ifanc a threfniadau cyfethol.
Mater 12.9 - byddai’n galluogi Cymru i gyflwyno deddfwriaeth ar drefniadau etholiadol ar gyfer cynghorau cymuned, fel trefniadau wardio ac adolygiadau o’r trefniadau hynny. Ni fyddai’n cynnwys y grym i newid y ffransais (pwy all bleidleisio) mewn etholiadau cynghorau cymuned na’r system bleidleisio a ddefnyddir.
Mater 12.10 – byddai’n galluogi’r Cynulliad i ymestyn Grym Lles i gynghorau cymuned (a roddwyd i awdurdodau unedol yn 2000). Mae hwn yn rym cadarnhaol a phellgyrhaeddol iawn i gynnal a chefnogi cynghorau i gryfhau lles economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol eu hardaloedd. Byddai hefyd yn disodli grymoedd mwy caeth Adran 137.
Mater 12.11 - byddai’n caniatáu Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi grantiau uniongyrchol i gynghorau cymuned, y gellid eu defnyddio i ychwanegu at incwm presept er mwyn ymateb i weithgarwch ychwanegol gan gynghorau.
Mater 12.12 – byddai’n galluogi’r Cynulliad i ddeddfu er mwyn annog gwell perthnasoedd gwaith rhwng dwy haen llywodraeth leol, a threfnu fod datblygu siartrau yn dod yn ofyniad statudol. Mae nifer o awdurdodau unedol eisoes yn gweithio gyda’u cynghorau cymuned a thref i ddatblygu siartr yn wirfoddol, ond mae cynnwys y mater hwn yn yr LCO yn symud y mater i fyny’r agenda i bob awdurdod.
Mater 12.13 - byddai’n caniatáu’r Cynulliad i gyflwyno cynllun achredu er mwyn cydnabod cynghorau cymuned sydd wedi cyrraedd safonau penodol. Mae Cynllun Ansawdd Cynghorau Plwyf a Thref ar waith yn Lloegr a byddai hyn yn caniatáu i Gymru ddatblygu ei fersiwn ei hun pe bai’n dymuno.
Mater 12.14 – byddai’n galluogi’r Cynulliad i’w gwneud yn ofynnol i hysbysebu cyfleoedd cyfethol yn agored yn y gymuned leol (argymhelliad arall sy’n weddill o astudiaeth Aberystwyth). Mae Un Llais Cymru eisoes yn cymell hwn yn enghraifft o arfer dda.
Mater 12.15 – byddai’n galluogi’r Cynulliad i ddeddfu er mwyn annog cynghorau i fod yn fwy agored ac atebol yn y ffordd y maen nhw’n darparu gwybodaeth ar weithgareddau awdurdodau unedol a chynghorau cymuned. Enghraifft o hynny fyddai’r awgrym y dylai cynghorwyr sir ddarparu mwy o wybodaeth ar eu gweithgarwch; nid yw Un Llais Cymru yn gwybod am unrhyw gynigion penodol yn ymwneud â chynghorau cymuned.
Mater 12.16 – byddai’n rhoi cymhwysedd i’r Cynulliad ar faterion yn ymwneud â chyflogau, lwfansau, pensiynau a thaliadau eraill i aelodau awdurdodau unedol, awdurdodau parciau cenedlaethol, cynghorau cymuned ac awdurdodau tân ac achub. Byddai hyn yn golygu y gellid cyflwyno lwfans sylfaenol i gynghorwyr cymuned, fel y rhagwelwyd yn astudiaeth Aberystwyth.
Mater 12.17 – byddai’n galluogi’r Cynulliad i fynnu fod awdurdodau unedol a chynghorau cymuned yn cynnig gwell cynhaliaeth i gynghorwyr, er mwyn helpu denu a chadw cynghorwyr. Eto, byddai hyn yn cael ei anelu’n bennaf at yr awdurdodau unedol.

Fel y gellir gweld uchod, nid yw’r holl faterion hyn yn ymwneud â chynghorau cymuned a thref yn unig a bydd yr LCO hefyd yn golygu y gellir gweithredu argymhellion eraill. Mae’r rhain yn cynnwys y rhai a gyflwynwyd gan Banel Arbenigol Comisiwn Cynghorwyr i Gymru, y cynrychiolwyd Un Llais Cymru arno, a’r Panel Cyflogau Annibynnol i Gymru ar lwfansau cynghorwyr sir.

Mae’n werth pwysleisio mai pwrpas yr LCO yw rhoi grymoedd i’r Cynulliad i wneud deddfwriaeth ar y materion hyn, ac nad yw’n golygu o reidrwydd y bydd cael y grym yn golygu y bydd deddfwriaeth o’r fath yn cael ei chyflwyno. Fodd bynnag, gwyddom fod Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i weithredu’r argymhellion sy’n weddill o astudiaeth Aberystwyth a chroesawn y sylw canlynol a wnaed gan y Gweinidog wrth gyflwyno’r LCO: “Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i gyflwyno cynigion i ddatblygu a chryfhau rôl cynghorau cymuned. Y nod yn y pendraw fydd gwneud cynghorau cymuned yn fwy effeithiol yn eu rôl ffwythiannol a chynrychioliadol, ac i hwyluso eu gallu i weithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill.”

Yn yr un modd, croesawn sylwadau pleidiau gwleidyddol eraill ar yr LCO. Meddai Darren Millar AC, Gweinidog yr Wrthblaid ar Gymunedau a Llywodraeth Leol: “Mae cynghorau tref a chymuned yn arbennig yn aml yn teimlo’n ddiymadferth wrth geisio mynd i’r afael â’r materion sydd o bwys yn eu cymunedau, Nid oes unrhyw amheuaeth fod angen cryfhau a gwella eu rôl. Dyna pam fy mod yn falch o ddweud fod fy mhlaid yn croesawu’r LCO arfaethedig hwn. Edrychwn ymlaen at graffu’r manylion yn ystod y cam pwyllgor.”

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, Dai Lloyd AC: “Wrth edrych ar gynghorau cymuned, nid oes gan y Cynulliad na Gweinidogion Cymru rymoedd ar hyn o bryd i ddeddfu ar gynghorau cymuned, adolygiadau cymunedol, cysylltiadau rhwng haenau llywodraeth leol, lwfansau cynghorwyr, denu a chadw cynghorwyr. Yn absenoldeb y grymoedd hynny, does fawr ddim y gallwn ei wneud ... Mae’n sicr fod angen cryfhau'r hyn y mae cynghorau tref a chymuned yn ei wneud.”

Meddai Peter Black AC, ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol: “Roedd adolygiad 2003 o gynghorau cymuned ... yn rhan o’r ymrwymiad yn y cytundeb rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur, ac felly rydw i’n croesawu’r ffaith ein bod yn awr yn mynd i geisio cael y grymoedd i weithredu rhai o’r cynigion oedd ynddo.

Mae Un Llais Cymru wedi pwyso’n gyson am weithredu’r argymhellion sy’n weddill o astudiaeth Aberystwyth, a gytunwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Gwyddom y gwnaed ymdrechion ond y cafwyd rhwystredigaethau yn San Steffan oherwydd materion amserlennu. Rydym felly’n croesawu’n fawr iawn y bwriad hwn i ehangu grymoedd i’r Cynulliad Cenedlaethol fel y gellir gweithredu argymhellion Aberystwyth a rhai eraill. Mae gan gynghorau cymuned a thref rôl bwysig i’w chwarae yn cynllunio a chyflawni gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac mae’n gwneud synnwyr fod Cymru’n cael y grymoedd i allu gwneud hynny.

Gweithredoedd Dogfen