Llinell Gymorth Tlodi Tanwydd

Mae Un Llais Cymru yn hapus i hybu’r Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes, sy’n annibynnol, i gynhorau tref a chymuned Cymru.

Mae cadw’n gynnes yn y gaeaf yn fater o bwys mawr i lawer o bobl, ac mae cwmnïau ynni Prydain yn awr wedi clustnodi £3.8 biliwn ar gyfer mesurau i gynorthwyo’r bobl fwyaf diymgeledd.

Fe all Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes - 0800 33 66 99 – ddarparu ar gyfer y grwpiau diymgeledd hyn:

  •  Cyngor ar dariffau cymdeithasol – yn nodweddiadol, 20 y cant o arbediad. 
  • Grantiau ar gyfer insiwleiddio cartrefi am ddim, ni waeth pwy sy’n berchen ar yr eiddo a dim profi modd i bobl dros 70 oed.  Hawl ddiamod iddynt hwy gael insiwleiddio am ddim o ran gwaliau ceudod a llofftydd neu waith diweddaru am ddim i gyrraedd safonau modern.  Yr un cymorth i bob aelwyd sy’n derbyn lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl neu lwfans cyflogaeth a chymorth (budd-dal analluogrwydd), lwfans rhiant unigol neu aelwydydd gyda phlant ifanc gydag incwm blynyddol sy’n llai na £14,600.
  • Mynediad i’r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth, gyda gwiriadau diogelwch blynyddol am ddim ar offer nwy, a chyfrineiriau ar gyfer galwyr swyddogol yn ymwneud â nwy a thrydan.  Trydydd parti, Braille, print bras a siarad am faterion bilio.
  • Opsiynau talu hyblyg ar gyfer cwsmeriaid mewn dyled tanwydd. 
  • Rhwyd ddiogelwch rhag datgysylltu, gan sicrhau na fydd unrhyw gwsmer diymgeledd yn cael ei ddatgysylltu’n ymwybodol.

 

Y mae Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes hefyd yn cydnabod mai’r bobl hynny sydd â’r angen mwyaf am gymorth yn aml yw’r union rai sydd leiaf galluog i gael at y cymorth, ac felly mae’r llinell gymorth yn awr yn derbyn ceisiadau gan drydydd parti, yn cynnwys galwadau oddi wrth gyfeillion, perthnasau a chymdogion, clerigwyr ar ran plwyfolion, gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd ar ran cleifion, gwirfoddolwyr ar ran y sawl maent yn eu cynorthwyo.  Mae llinellau yn agored 9.00 y bore - 8.00 yr hwyr, dydd Llun – dydd Gwener, a 10.00 y bore -2.00 y pnawn ddydd Sadyrnau.  Fe atebir galwadau gan gynghorwyr arbenigol wedi’u hyfforddi, nid gweithwyr canolfannau galw, ac fe allwch hyd yn oed drefnu cael galwad yn ôl neu gael mwy o wybodaeth yn  www.homeheathelpline.org.uk.

 

 

 

Gweithredoedd Dogfen