Cynhadledd Cymorth Cynllunio 2010
'Cymorth Cynllunio – Ymgysylltu â Chymunedau'
Cynhelir Cynhadledd Genedlaethol Cymorth Cynllunio eleni yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 29 Ebrill a bore dydd Gwener 30 Ebrill 2010. Bydd yn dod ag ystod o bobl o bob rhan o'r DU at ei gilydd mewn amgylchedd gyfeillgar, hamddenol a fydd yn annog cynadleddwyr i gyfnewid syniadau, i ysbrydoli ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Heblaw am staff a gwirfoddolwyr cymorth cynllunio croesewir hefyd cynrychiolwyr o grwpiau cymunedol a gwirfoddol, cynghorau tref a chymuned ac eraill sydd wedi bod, neu yn cymryd rhan yn gyfredol yn y system gynllunio. Y syniad yw fod cymorth cynllunio ond yn gwneud synnwyr pan mae'n cefnogi pobl o fewn y gymuned a'u cynorthwyo i wireddu eu gweledigaethau a phrosiectau ymarferol.
Bydd rhaglen fywiog o weithdai, grwpiau trafod a theithiau maes yn arddangos ymarfer gorau mewn ymgysylltu â chymunedau wrth gynllunio yn ogystal â mentrau cymunedol calonogol fydd yn elwa o gefnogaeth cymorth cynllunio. Bydd cyfleoedd hefyd i drafod a datblygu atebion i'r heriau cyffredin a wynebir pan yn gweithio gyda chynllunwyr a chymunedau.
Mae'r gynhadledd yn gyfle amhrisiadwy i'r rhai sy'n ymwneud â chymorth cynllunio a gwaith cymunedol ledled y DU i ddod at ei gilydd i gael eu hysbrydoli ac i ddatblygu syniadau newydd i gefnogi cymunedau.
Mae rhaglen fanwl a ffurflen gofrestru ar gael i'w lawrlwytho o www.cymorthcynlluniocymru.org.uk/conference neu drwy gysylltu â Marika Fusser ar 01286 882 834 neu marika@cymorthcynlluniocymru.org.uk.

