Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn dechrau Adolygiadau Etholiadol
Yn gynharach eleni anfonodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Gyfarwyddiadau i’r Comisiwn fel cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiadau o drefniadau etholiadol pob prif ardal yng Nghymru (h.y. y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol).
Yn gryno, mae’r Cyfarwyddiadau’n dweud wrthym:
- Y dylai cynghorau fod ag isafswm o 30 cynghorydd ac uchafswm o 75;
- Na ddylai’r gymhareb cynghorwyr i etholwyr fod yn llai na 1:1750;
- Y dylai’r Comisiwn ystyried adrannau un aelod neu adrannau amlaelod fel y gwelant yn dda.
Mae’r Comisiwn yn bwriadu cynnal cyfarfodydd briffio ymhob prif awdurdod er mwyn esbonio’r broses ac ateb unrhyw gwestiynau ynghylch y gyfraith neu’r broses, ac mae pob clerc cyngor cymuned a thref yn cael copi o’r llythyrau y mae’r Comisiwn yn eu hanfon. Ceir cyfnod naw wythnos ar gyfer sylwadau cychwynnol ymhob ardal, felly gofynnir i bob cyngor sicrhau y cânt eu cynrychioli yn y cyflwyniadau. Bydd y broses adolygu gyfan ar gyfer pob ardal cyngor yn cymryd hyd at ddeuddeg mis i’w chwblhau.
Maint y Cyngor
Bydd y Comisiwn yn ystyried y nifer cywir o gynghorwyr drwy gymryd i ystyriaeth nodweddion arbennig pob ardal yng nghyd-destun y fframwaith a osodir yn y Cyfarwyddiadau. Bydd y Comisiwn, i’r graddau y bo’n bosibl, yn ymddwyn yn gyson rhwng un cyngor a’r llall ymhob ardal yn y cyngor. Ar hyn o bryd mae rhai amrywiadau eang rhwng cynghorau yn ogystal ag yn y cynghorau. Y dasg allweddol ar gyfer y Comisiwn yw gwella democratiaeth yng Nghymru fel bod gwerth cydradd i’ch pleidlais ble bynnag yr ydych yn byw yng Nghymru.
Adrannau Etholiadol Un Aelod ac Amlaelod
Mae’r Rheolau’n gofyn bod y Comisiwn yn rhoi aelod etholedig unigol i bob adran etholiadol. Pe bai’r Comisiwn o’r farn fod sail ar gyfer addasu’r patrwm presennol o adrannau etholiadol un aelod ac amlaelod bydd y Comisiwn yn edrych i weld a oes cefnogaeth eang i newid ymhlith etholwyr.
Cymhareb Cynghorwyr i Etholwyr
Mae’r Rheolau’n datgan y bydd nifer yr etholwyr, cyn agosed ag y bo modd, yn gydradd ymhob adran etholiadol yn ardal y cyngor. Dylwn hefyd gymryd i ystyriaeth unrhyw newid yn nifer yr etholwyr neu eu dosraniad, sy’n debygol o ddigwydd ymhen pum mlynedd ar ôl yr adolygiad.
Mae’r Comisiwn yn cydnabod y gallai rhesymau demograffig arbennig neu rai eraill gyfiawnhau ymadael â’r gymhareb 1:1,750. Bydd y Comisiwn yn cymryd i ystyriaeth ystod eang o resymau sy’n effeithio ar ardaloedd unigol, gan gofio bob amser rwymedigaeth y Comisiwn i wneud cynigion ar gyfer newid sy’n ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Blociau Adeiladu Adrannau Etholiadol
Bydd y Comisiwn yn defnyddio’r cymunedau a’r wardiau cymunedol, lle maent yn bodoli, fel blociau adeiladu ar gyfer yr adrannau etholiadol. Ni fydd unrhyw ffiniau cynghorau cymunedol yn newid yn ystod y broses hon. Fodd bynnag, gall olygu lle bo cyngor cymuned neu dref yn cael ei rannu’n wardiau at ddibenion etholiadol, y gellir rhannu’r wardiau cymunedol hyn rhwng adrannau etholiadol cyfagos yn y Sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol er mwyn sicrhau dosraniad tecach o etholwyr i gynghorwyr.
Enwau Adrannau Etholiadol
Pe bai adrannau etholiadol newydd yn cael eu sefydlu, mae’n rhaid i’r Comisiwn yn ôl y gyfraith, gynnig enw adran etholiadol newydd a fydd yn Saesneg ac yn Gymraeg. Bydd y Comisiwn yn cymryd i ystyriaeth barn leol a materion yn ymwneud â’r Gymraeg wrth benderfynu’n derfynol ar enw.
Amserlen
Mae’r Cyfarwyddiadau am i’r Comisiwn orffen y rhaglen hon o adolygiadau etholiadol erbyn diwedd mis Mehefin 2011. Mae pedwar adolygiad yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd yng Nghastell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, gyda Rhondda, Cynon Taf ac Ynys Môn yn y dilyniant nesaf.

