Cofrestrwch eich tir!
Mae’r Gofrestrfa Tir wedi lansio menter sy’n rhoi disgownt wrth gofrestru tir yn wirfoddol i gynorthwyo tirfeddianwyr i ganfod a chofrestru eu heiddo.
Mae’r fenter yn rhan o ymgyrch gan y Gofrestrfa Tir – yr adran o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am gofrestru perchnogaeth tir yng Nghymru a Lloegr – i annog pobl i gofrestru eu tir a’u heiddo. Mae gan Gymru ymhlith y lefelau isaf o dir cofrestredig, gyda 40 y cant o’r tir yn ddigofrestredig o hyd.
Mae’r Gofrestrfa Tir yn croesawu ymholiadau gan Gynghorau Cymuned, tirfeddianwyr a ffermwyr neu eu cynrychiolwyr megis asiantau tir a chyfreithwyr. Mae cofrestru tir yn wirfoddol yn galluogi tirfeddianwyr i gadw trefn ar eu hasedau a’u rheoli’n fwy effeithiol nawr ac yn y tymor hir.
Mae’r Gofrestrfa Tir yn gwybod y gallai Cynghorau Cymuned gael anhawster i ddod o hyd i ddogfennaeth i’w tirddaliadau. Wrth gydnabod hyn, ei hamcan yw gwneud y broses o gofrestru perchnogaeth tir yn wirfoddol mor syml â phosibl.
Mae cofrestriad wedi ei gefnogi gan y wladwriaeth yn rhoi sicrwydd gwell o ran teitl, gan warchod yn well yn erbyn hawliadau meddiant gwrthgefn. Mae tirfeddianwyr hefyd yn gwybod bod trefn dda ar weinyddiaeth eu tirddaliad gyda’u gwybodaeth allweddol mewn un man ac yn hawdd cael gafael arni.
Mae’r Gofrestrfa Tir yn cynnig disgownt i gofrestru tir yn wirfoddol ar hyn o bryd, a bydd ein timoedd cofrestru profiadol yn hapus i arwain y rheiny sydd â diddordeb drwy’r broses gofrestru. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Bethan Harrington ar 01792 355143 neu Siân Griffiths ar 01792 354798, neu ewch i:
www.cofrestrfatir.gov.uk/solidground/

