Canllaw Bras i Raglen Dinasyddiaeth yr UE 2007 – 13 ar gyfer Cymunedau Cymreig
Mae’r gweithdy ar agor i gymdeithasau gefeillio ynghyd â grwpiau ac unigolion eraill sydd am ddeall sut i gymryd rhan yn rhaglen ‘Ewrop i Ddinasyddion’.
Yn dilyn gweithdy llwyddiannus ar raglen ‘Ewrop i Ddinasyddion’ yng Nghaerfyrddin yn mis Hydref 2008, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), mewn partneriaeth â Un Llais Cymru, Euclid (Man cyswllt y DU ar gyfer rhaglen ‘Ewrop i Ddinasyddion’), Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr a Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, yn cynnal gweithdy dilynol yng Nghanolfan Adnoddau’r Cyfryngau, Llandrindod ar bnawn Mercher, 18fed Mawrth 2009 er mwyn cyflwyno a rhoi cyngor ar y cyfleoedd a fydd yn deillio o Raglen Ddinasyddiaeth newydd yr UE 2007-13. Gan fod 2009 yn Flwyddyn Ewropeaidd am Arloesedd a Chreadigrwydd, fe fydd y gweithdy yn edrych ar nifer o flaenoriaethau a themau y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer gefeillio yn 2009. Mae’r gweithdy ar agor i gymdeithasau gefeillio ynghyd â grwpiau ac unigolion eraill sydd am ddeall sut i gymryd rhan yn rhaglen ‘Ewrop i Ddinasyddion’.
Cofrestrwch os gwelwch yn dda gyda - iwan.williams@wlga-brussels.org.uk erbyn DYDD MAWRTH 10fed MAWRTH, 2009.

