BT YN CAEL CYMUNEDAU CYMRU AR LEIN

Cynllun gwobrau’n rhoi cyfle i grwpiau cymunedol symud i mewn i’r byd digidol.

Mae BT wedi lansio cyfres newydd o’i gynllun gwobrau Cysylltiadau Cymunedol BT (BTCC) i helpu pobl fynd ar-lein yng Nghymru a gofynnwyd i Un Llais Cymru helpu beirniadu’r ceisiadau.

Gwahoddir grwpiau cymunedol ac elusennol, gan gynnwys cynghorau cymuned a thref, i wneud cais am Wobrau BTCC, sy’n cynnwys gliniaduron a chysylltiad band llydan â’r rhyngrwyd am flwyddyn. Mae croeso hefyd i grwpiau gynnig gyda’i gilydd am Wobr Clwstwr BTCC, a’r wobr i bob aelod o’r grŵp yw pecynnau ychwanegol o offer TG.

Er y daeth y rhyngrwyd yn rhan allweddol o fywydau beunyddiol y rhan fwyaf ohonom*, mae llawer o bobl yn dal i fethu manteisio ar y cyfleoedd i e-bostio, rhwydweithio, dod o hyd i hyfforddiant, cael swydd a chael gafael ar wasanaethau hollbwysig sydd ar gael ar y we. Mae tuag un rhan o dair o bobl yng ngwledydd Prydain yn cael eu hystyried yn ‘ddigidol eithriedig’.

Mae BT yn credu fod gwella cyfathrebu yn helpu creu cymdeithas decach, fwy cynhwysol sy’n rhoi cyfle i bawb gymryd rhan, elwa a chyfrannu. Mae’r cynllun gwobrau yn galluogi grwpiau sydd eisoes yn gweithio mewn cymunedau i fynd ar-lein a phrofi manteision y rhyngrwyd, gan eu helpu i ddatblygu eu gallu ac annog eu haelodau i gefnogi ei gilydd ar eu teithiau digidol eu hunain.

I wneud cais ewch i www.btcommunityconnections.com neu ysgrifennwch at PO Box 6919, Llundain W1A 8UX i ofyn am ffurflen gais.

Meddai Beth Courtier, pennaeth rhaglen elusennol BT: “Mae Cysylltiadau Cymunedol yn parhau’n elfen ganolog o’n strategaeth i helpu pobl fanteisio’n llawn ar y buddiannau enfawr y mae’r rhyngrwyd yn eu cynnig. Ym myd digidol heddiw, daeth y rhyngrwyd yn un o brif elfennau eithrio cymdeithasol. Rydym yn falch iawn o arwain y gwaith o ymrymuso cymunedau lleol, trwy ddarparu’r gwobrau hynod lwyddiannus hyn ledled gwledydd Prydain.

“Rydym yn gyson yn dysgu, mireinio a gwella’r cynllun ac yn falch iawn o gyhoeddi’r gwobrau clwstwr newydd. Pwrpas y rhain yw annog rhagor o rwydweithio a throsglwyddo gwybodaeth yn y sector gwirfoddol.”

* Ar hyn o bryd mae 33% o bobl yng ngwledydd Prydain yn cael eu hystyried yn ddigidol eithriedig, gan nad oes ganddynt unrhyw fodd o ddefnyddio cyfrifiadur na chysylltu â’r rhyngrwyd.  Adroddiad Cynaliadwyedd BT 2008: Cymdeithas Gynhwysol.

 

 

Gweithredoedd Dogfen