Beth sydd mewn enw?

Beth sydd mewn enw? Wel, mwy na feddyliwch chi ar yr olwg gyntaf efallai. Dyma oedd thema Dr Rhian Parry pan gyflwynodd hanes ei hymchwil a Phrosiect Treftadaeth y Loteri, ‘Adnabod Ardudwy’ i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Un Llais Cymru ym mis Medi 2009.

Dangosodd yr ymchwil fod llawer o’r enwau hyn yn ganrifoedd oed.  Nid yn unig hynny, ond maent yn dweud cyfrolau wrthym am ein hanes a’r ffordd y defnyddiwyd y tir gan y brodorion a gaeth gynhaliaeth ganddo.

Cawn yn rhestrau Degwm 1840 Ardudwy dros 1,000 o enwau ffermydd a 14,000 o enwau caeau ac mae’r mapiau sy’n cyd-fynd gyda’r rhestrau’n lle da i gychwyn chwilio am enwau.  Daeth yn amlwg fod y ffermwyr hynny sydd â theuluoedd a fu’n byw ar yr un tir dros genedlaethau, yn dal i ddefnyddio’r enwau sydd yn y Degwm.  Gellir dweud gyda sicrwydd felly bod rhai enwau a ddefnyddir heddiw yn o leiaf 150 mlwydd oed.  Yn ogystal, ceir nifer fawr o enwau a gofnodwyd mewn casgliadau a phapurau ystadau lleol sy’n deillio rhwng 1341 a 1623.  Cofnodwyd ychydig mor bell yn ôl a 1209.  Y mae’n bur debyg fod llawer o’r enwau hyn yn hŷn na’r cofnodion amdanynt, ac ychydig iawn y maent wedi newid.

Diogelwyd enwau caeau’n arbennig, gan deuluoedd sy’n eu defnyddio’n gyson a naturiol.  Ond, ni ellir dibynnu ar yr arferiad hwn o gadw enwau mwyach.  Oherwydd y newidiadau economaidd a chymdeithasol mewn patrymau trin y tir, nid yw ffermydd heddiw yn gallu cynnal y genhedlaeth ifanc ac yn aml, cydiwyd fferm wrth fferm.  Gwerthir y ffermdai ac mae ffermwyr newydd heb yr wybodaeth etifeddol o enwau’r caeau yn trin y tir.  Mae’r penderfyniad gan y weinyddiaeth amaeth i roi rhifau ar fapiau yn lle enwau caeau yn enghraifft o golli cyfle i gadw enwau hynafol.

Ceir mewn enwau, atgofion lliwgar o’r amseroedd gynt ac maent yn dweud rhywbeth am y dirwedd.  Er enghraifft, ‘Cae y meini hirion’,  Llain y pryfed bach (ysgyfarnogod) a ‘Pant Cadwgan Ddreiniog’.  Ni wyddys ai’r pant ai Cadwgan oedd yn ddreiniog ei natur!   Mae enwau sy’n cynnwys ‘erw’, ‘talar’, ‘maes’ a ‘chyfer’, ymysg eraill, yn awgrymu hen gytiroedd a thir âr ar y llethrau isaf.  Yn aml, enwir tiroedd hynafol mewn casgliadau a phapurau ystadau ac ynghyd â’r enwau sydd yn y Degwm, gellir drwyddynt awgrymu lleoliadau hen gymunedau.  Gellir gweld haenau o’r mapiau Degwm hyn, ynghyd a’r mapiau Arolwg Ordnans ac awyrluniau o’r mwyafrif o Ardudwy, ar wefan y prosiect, www.adnabodardudwy.org.uk 

Yn Ardudwy, fe ddaeth yn amlwg drwy weithgareddau Adnabod Ardudwy fod diddordeb mawr mewn enwau ffermydd a chaeau ac yn eu gwerth hanesyddol a diwylliannol.  Drwy godi ymwybyddiaeth ynddynt, sylweddolwyd pa mor fregus ydyw’r enwau hynafol hyn a chymaint o frys sydd angen i’w diogelu.

Felly, gellir gweld fod enwau ffermydd a chaeau yn ffurfio cerrig camu yn ôl i’n gorffennol hanesyddol a diwylliannol, ac yn ein cynorthwyo i ail-greu’r dirwedd hynafol.  Nid yw sefyllfa Ardudwy yn wahanol i gylchoedd eraill yng Nghymru yn hyn o beth.  Dyma’n henebion ieithyddol.  A allwn ganiatáu iddynt ddiflannu ?  Bu Cymru’n arloesol ym myd cadwraeth adeiladau, ecoleg a henebion ers blynyddoedd lawer.  Diystyrwyd enwau yn yr ymdrechion hyn .  Diau nad ydynt yn haeddu’r un safon o gadwraeth.

Gall sefydliadau a’r llywodraeth wneud cyfraniad, ar lefel lleol a chenedlaethol.  Gellir dod o hyd i ffyrdd creadigol ac effeithiol os oes ewyllus i gadw enwau.  Ond, rhaid gweithredu ar frys.

© Rhian Parry

Gweithredoedd Dogfen