Newyddion

Ar y dudalen hon fe gewch nifer o wahanol straeon newyddion, yn dechrau gyda’r ddiweddaraf.

Os oes gennych eitem newyddion allai fod yn berthnasol i gynghorau cymuned a thref yng Nghymru rhowch wybod inni – efallai y gallem ei chynnwys ar y dudalen hon. Mae croeso arbennig i straeon newyddion gan gynghorau gan fod rhannu gwybodaeth gydag eraill am y gwaith rydych yn ei wneud yn gallu bod yn llesol iawn.

Rydym am glywed eich barn chi am y newid yn yr hinsawdd!

Ydych chi’n iau na 25? Oes diddordeb gennych chi yn y newid yn yr hinsawdd?

Mwy...

Cynhadledd Cymorth Cynllunio 2010

Cynhadledd Cymorth Cynllunio 2010

'Cymorth Cynllunio – Ymgysylltu â Chymunedau'

Mwy...

Garddwest Palas Buckingham 2010

Tynnwyd enwau o het ar gyfer Garddwest Palas Buckingham heddiw (19eg Mawrth 2009) yn swyddfa Un Llais Cymru, Rhydaman.

Mwy...

Beth sydd mewn enw?

Beth sydd mewn enw?

Beth sydd mewn enw? Wel, mwy na feddyliwch chi ar yr olwg gyntaf efallai. Dyma oedd thema Dr Rhian Parry pan gyflwynodd hanes ei hymchwil a Phrosiect Treftadaeth y Loteri, ‘Adnabod Ardudwy’ i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol Un Llais Cymru ym mis Medi 2009.

Mwy...

Y chwilio'n dechrau am yr Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd nesaf

Y chwilio'n dechrau am yr Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd nesaf

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn chwilio am 6 o bobl ifanc frwdfrydig rhwng 14 ac 18 oed o bob cwr o Gymru i fod yn Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd ar gyfer 2010.

Mwy...

Gallai Cymru wneud eu deddfau ei hun i gryfhau cynghorau cymuned a thref

Gallai Cymru wneud eu deddfau ei hun i gryfhau cynghorau cymuned a thref

Awgrymodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ddiweddar y dylid rhoi grymoedd i Gymru i alluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu i gryfhau’r sector cynghorau cymuned a thref. Mae hynny’n elfen allweddol yn y broses o weithredu’r argymhellion sy’n weddill o astudiaeth 2003 Aberystwyth i Rôl, Swyddogaeth a Photensial cynghorau cymuned a thref yng Nghymru a bydd yn golygu y gellir gwneud gwelliannau eraill i’r sector. Mae Un Llais Cymru eisoes wedi trefnu rhoi tystiolaeth i’r Cynulliad ym mis Hydref. Hefyd, yn dilyn cais gan Un Llais Cymru, mae’r Cynulliad wedi cytuno i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer sylwadau hyd at 30 Medi.

Mwy...

Cofrestrwch eich tir!

Cofrestrwch eich tir!

Mae’r Gofrestrfa Tir wedi lansio menter sy’n rhoi disgownt wrth gofrestru tir yn wirfoddol i gynorthwyo tirfeddianwyr i ganfod a chofrestru eu heiddo.

Mwy...

Un Llais Cymru yn cymeradwyo gwersi arfer dda i gynghorau

Un Llais Cymru yn cymeradwyo gwersi arfer dda i gynghorau

Mae Un Llais Cymru, y corff cynrychioliadol i gynghorau cymuned a thref, yn cymeradwyo’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer cynghorwyr.

Mwy...

Helpwch eich cymuned i baratoi i newid i ddigidol

Helpwch eich cymuned i baratoi i newid i ddigidol

Ar 31ain Mawrth 2010 bydd Cymru’n dod yn genedl ddigidol gyntaf y Deyrnas Unedig pan fydd trosglwyddydd Gwenfô sy’n darlledu i Gaerdydd a de ddwyrain Cymru’n cwblhau ei newid trosodd i signal digidol. Mae Un Llais Cymru’n gweithio gyda Digital UK i ddarparu gwybodaeth i gynghorau cymunedol a threfol fel y gallan nhw roi cyhoeddusrwydd i’r hyn sy’n digwydd yn lleol yn ystod y broses newid trosodd.

Mwy...

Ymgynghoriad Cod Ymarfer Ffeil Cyfeiriad Cod Post

Ymgynghoriad Cod Ymarfer Ffeil Cyfeiriad Cod Post

Mae Postcomm wedi lansio ymgynghoriad ar newidiadau i God Ymarfer Ffeil Cyfeiriad Cod Post (Postcode Address File – PAF). Mae Un Llais Cymru yn ymwybodol yr hoffai nifer o gynghorau weld hen enwau’r siroedd yn cael eu tynnu o’r Ffeil Cyfeiriad Cod Post a dyma’ch cyfle i roi’ch barn chi.

Mwy...

Cyfri’r Dyddiau cyn Copenhagen

Cyfri’r Dyddiau cyn Copenhagen

Ym mis Rhagfyr eleni, bydd arweinwyr y byd yn cwrdd mewn cynhadledd fawr o’r enw COP 15 yn Copenhagen i drafod y newid yn yr hinsawdd a’r hyn sydd angen ei wneud ledled y byd i’w arafu. Y nod yw cytuno ar ffordd i’r byd weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mwy...

BT YN CAEL CYMUNEDAU CYMRU AR LEIN

BT YN CAEL CYMUNEDAU CYMRU AR LEIN

Cynllun gwobrau’n rhoi cyfle i grwpiau cymunedol symud i mewn i’r byd digidol.

Mwy...

Gwobrau am Bontio Diwylliannau

Gwobrau am Bontio Diwylliannau

Grwpiau cymunedol lleol yn cael cyfle i ddisgleirio

Mwy...

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn dechrau Adolygiadau Etholiadol

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn dechrau Adolygiadau Etholiadol

Yn gynharach eleni anfonodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Gyfarwyddiadau i’r Comisiwn fel cyfarwyddyd wrth gynnal adolygiadau o drefniadau etholiadol pob prif ardal yng Nghymru (h.y. y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol).

Mwy...

Garddwest Palas Buckingham

Garddwest Palas Buckingham

Tynnwyd enwau o het ar gyfer Garddwest Palas Buckingham heddiw (31 Mawrth 2009) yn swyddfa Un Llais Cymru, Rhydaman.

Mwy...

Gweinidog yn cyhoeddi cytundeb ar y cyd i fynd i’r afael â thlodi plant

Gweinidog yn cyhoeddi cytundeb ar y cyd i fynd i’r afael â thlodi plant

Heddiw (dydd Iau 26 Mawrth) lansiodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol y Dr Brian Gibbons gytundeb ar y cyd ar dlodi plant gan alw ar sefydliadau yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru i’w lofnodi.

Mwy...

Her Fawr i Gymunedau Cymru – Allai eich pentref chi gipio’r wobr fawr eleni?

Her Fawr i Gymunedau Cymru – Allai eich pentref chi gipio’r wobr fawr eleni?

Wedi iddi gael ei lansio ym mis Ionawr, mae cynnydd sylweddol yn y gwobrau sydd ar gael yng nghystadleuaeth Pentref y Flwyddyn Calor Cymru eleni yn sicr o danio awydd a dychymyg cymunedau, wrth i fwy a mwy ohonynt geisio ennill cyfran o’r gronfa wobrau newydd gwerth £15,000. Yn ogystal â’r cynnydd yng ngwerth y gwobrau, mae trefnwyr y gystadleuaeth hefyd wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cynigion – tan ddydd Gwener 29 Mai.

Mwy...

Canllaw Bras i Raglen Dinasyddiaeth yr UE 2007 – 13 ar gyfer Cymunedau Cymreig

Canllaw Bras i Raglen Dinasyddiaeth yr UE 2007 – 13 ar gyfer Cymunedau Cymreig

Mae’r gweithdy ar agor i gymdeithasau gefeillio ynghyd â grwpiau ac unigolion eraill sydd am ddeall sut i gymryd rhan yn rhaglen ‘Ewrop i Ddinasyddion’.

Mwy...

"0 Ond 1" Rhaglen Cwis - Angen Cystadleuwyr

"0 Ond 1" Rhaglen Cwis - Angen Cystadleuwyr

Rydym yn chwilio am gystadleuwyr i gymryd rhan cwis iaith Cymraeg i S4C.

Mwy...

Gweithredoedd Dogfen