Gwybodaeth ar hyfforddiant i glercod, gan gynnwys y Dystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol (Cymru).
Cyflwyniad i rôl a gwaith cynghorau cymuned a thref.
Datblygwyd y dystysgrif gan y Grwp Cynghori Cenedlaethol ar Hyfforddiant (NTAG), sydd yn ei dro yn bartneriaeth rhwng y Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC), Un Llais Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae'n adlewyrchu ac yn ychwanegu at y cymhwyster CiLCA sydd wedi bod ar gael i glercod Lloegr ers peth amser, ond sy'n adlewyrchu anghenion a newidiadau deddfwriaethol Cymru.
Dros amser mae disgwyl y bydd y cymhwyster hwn yn dod yn feincnod lefel mynediad ar gyfer clercod cynghorau tref a thymuned yng Nghymru. Bydd yn galluogi clercod newydd a phrofiadol i gynnig gwell gwasanaeth i'w cyflogwyr a'u cymunedau lleol.
Mae'n gymhwyster a enillir trwy astudio a bydd gofyn ichi gyflwyno portffolio gorffenedig i'w asesu cyn derbyn y cymhwyster.
Ceir gwahanol ddulliau o hyfforddi ar gyfer cyflawni'r CiLCA a'r dull a argymhellir yw cwblhau Gweithio gyda'ch Cyngor (Cymru) a gynlluniwyd yn arbennig er mwyn paratoi clercod tuag at y cymhwyster.
Ceir copïau o'r portffolio mewn Cymraeg a Saesneg.
I wneud cais i gymryd y cymhwyster dylid anfon at SLCC. Wedi llenwi'r ffurflen gais a thalu'r ffi (£150) caiff ymgeiswyr 2 flynedd i gwblhau a chyflwyno eu ceisiadau.
Trosglwyddir hwn at yr SLCC a fydd yn gyfrifol am weinyddu marcio'r portffolio ac os yw ymgeisydd yn llwyddiannus am gyflwyno'r dystysgrif.
Siec yn daladwy i SLCC - CiLCA Management.
Os nad yw ymgeisydd yn llwyddiannus mewn un adran neu ragor bydd yn rhaid ail-gyflwyno ynghyd â'r ffi briodol er mwyn ail-farcio.
Bydd aelodau SLCC sydd am ymgeisio am aelodaeth o Sefydliad Rheoli Cynghorau Lleol (ILCM) yn gweld bod y CiLCA yn un o'r gofynion am aelodaeth uwch nag un ar lefel myfyriwr.
Y gobaith yw y bydd y rhan fwyaf o glercod Cymru yn ymgeisio am gymhwyster CiLCA er mwyn i'r sector gynnal ei broffesiynoldeb cynyddol.
Cyflwynwyd y cynllun er mwyn annog mwy o glercod i gael hyfforddiant. Nid oes rhaid i’ch cyngor fod yn aelod o SLCC na’r OVW er mwyn bod yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth - ond gallai cost y cyrsiau adlewyrchu eich statws fel aelod, h.y. bydd disgownt yn debygol os ydych yn aelod.
Fodd bynnag, er mwyn bod yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth, mae’n rhaid bod gan eich cyngor drosiant o fwy na £25k pan gyfyngir y bwrsariaeth i 50% o gost yr hyfforddiant, cynhadledd neu ddigwyddiad Datblygiad Proffesiynol Parhaus hyd at uchafswm o £100. Gobeithir fod cynghorau “mwy o faint” eisoes wedi darparu ar gyfer hyfforddiant yn eu cyllidebau.
Mae’r arian ar gael i glercod a chynorthwywyr gweinyddol cynghorau cymuned & thref. Mae’n rhaid i gadeirydd a chlerc y cyngor arwyddo’r cais ac ni ellir hawlio ar ôl yr hyfforddiant.
