Hyfforddiant i Gynghorau

“Hyfforddiant yw’r arf pwysicaf sydd gennym, a rhaid ei ddefnyddio i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau.”

Mae cynllun hyfforddi newydd sbon ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref (gweler isod) wedi cael ei ddatblygu ac wrthi’n cael ei ddosbarthu ar draws Cymru.  Am fanylion o ddigwyddiadau hyfforddi sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi, cymerwch olwg ar ein  Calendr Hyfforddi.

Yn 2005, gan weithredu ar argymhelliad “Astudiaeth Aberystwyth”, sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Grŵp Ymgynghorol Cenedlaethol ar Hyfforddiant, a gafodd y cyfrifoldeb o ddatblygu Strategaeth Hyfforddi Genedlaethol ar gyfer cynghorau cymuned a thref yng Nghymru.  Cyhoeddwyd hon ym mis Medi 2006, ac fe’i cylchredwyd i bob cyngor yng Nghymru. Yn dilyn adborth gan y cynghorau datblygwyd cynllun gweithredu a gwnaed y penderfyniad i gynhyrchu'r pecynnau hyfforddi oedd eisoes wedi’u datblygu gan Ken Burton o Un Llais Cymru.

Ym mis Awst 2007, bu i’r Grŵp Ymgynghorol Cenedlaethol ar Hyfforddiant wahodd tendrau ar gyfer datblygu pecynnau hyfforddi, a chomisiynwyd yr enillydd, Grŵp BTG o Landudno, i gynhyrchu'r pecynnau.

Cynlluniwyd y pecynnau ar sail modylau, gydag unedau y gellir eu cyflwyno o fewn sesiwn 2.5 awr min nos.  Dyna oedd hoff fformat mwyafrif y cynghorau a atebodd i’r ymgynghoriad ym mis Medi 2006.

Cynnwys y modiwlau yw:

  • Y Cyngor
  • Y Cynghorydd
  • Y Cyngor fel Cyflogwr
  • Dealltwriaeth o'r Gyfraith
  • Cyfarfodydd y Cyngor
  • Cyllid Llywodraeth Leol

Am fwy o wybodaeth am beth mae bob modiwl yn ymdrin ag ef, gweler Trosolwg ar y Modiwl.

Hyfforddiant i Glercod

Gweler y dudalen Hyfforddiant Clercod am wybodaeth ar y cymhwyster newydd ‘Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol (Cymru)’.

Mae'n adlewyrchu ac yn ychwanegu at y cymhwyster CiLCA sydd wedi bod ar gael i glercod Lloegr ers peth amser, ond sy'n adlewyrchu anghenion a newidiadau deddfwriaethol Cymru.

Gweithredoedd Dogfen