Manteision Aelodaeth

Ystyriwch y manteision sydd ar gael i aelodau -

Cyngor yn rhad ac am ddim – darparu cyngor cyfreithiol a chyffredinol yn ymwneud â gwella darpariaeth gwasanaethau.
Materion yn ymwneud â chyflogaeth – cefnogaeth a chyfarwyddyd ar ystod o faterion yn ymwneud â chyflogaeth.
Cyfarwyddyd ariannol – cefnogaeth arbenigol ar bob agwedd ariannol o waith y cyngor.
Cyngor archwilio – cyngor cyffredinol ar faterion yn ymwneud ag archwiliad.
Cynrychiolaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru – mae Un Llais Cymru’n gweithio’n agos gyda Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y Cynulliad, sy’n golygu ein bod yn cadw’n gyfredol â datblygiadau sy’n effeithio ar gynghorau.  ‘Rydym hefyd yn gweithio gydag ystod o bartneriaid eraill i hyrwyddo budd cynghorau.
Cyrsiau hyfforddi a seminarau – gweler y prif dudalennau hyfforddiant yn Adran yr Aelodau am fanylion llawn o ddigwyddiadau a seminarau yn y dyfodol agos.
Cylchlythyr – cyhoeddir cylchlythyr lliw llawn yn chwarterol, ac fe’i hanfonir at gynghorau sy’n aelodau, yn amlygu datblygiadau yn y sector ar lefel genedlaethol a lleol.
Cynhadledd Flynyddol - trefnir cynhadledd flynyddol i’n haelodau, gan alluogi iddynt glywed yn uniongyrchol am ddatblygu polisi a darpariaeth gwasanaethau.
Arfer gorau – casglu a rhannu gwybodaeth ar arfer gorau i gynghorau ar bob math o bwnc.
Gwefan – gydag Adran benodol i Aelodau, yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol i gynghorau a chynghorwyr yng Nghymru.
Cyngor a chyfarwyddyd ar ymgynghoriadau allanol.
Rhannu gwybodaeth gyda chynghorau eraill - anogir cynghorau sy’n aelodau i rannu gwybodaeth am eu newyddion a’u gweithgarwch trwy wefan a chylchlythyr Un Llais Cymru - gallant gysylltu â'i gilydd yn uniongyrchol i ddysgu o brofiadau cynghorau eraill.

 

Cooperative Bank

Vision ICT logo

Gweithredoedd Dogfen