Cynhadledd Blynyddol Un Llais Cymru 2009

Cynhaliwyd cynhadledd genedlaethol cynghorau tref a chymuned Cymru 2009 ddydd Sadwrn, 10 Hydref ym Mhontrhydfendigaid ger Aberystwyth.

Thema’r gynhadledd oedd Datblygu Eich Cymuned ac roedd yn canolbwyntio ar sut mae modd i gynghorau wella’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.  Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Dr Brian Gibbons AC - Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.Dr Brian Gibbons

Yn ogystal â chlywed barn ddiweddaraf y Gweinidog ynglŷn â rôl cynghorau tref a chymuned, dangosodd y gynhadledd sut y gwnaeth grŵp o gynghorau yng Ngwynedd gydweithio a chymryd gwasanaethau ychwanegol gan y cyngor sir er lles eu cymuned – model all gael ei drosglwyddo i fan arall yng Nghymru.

 

Cyflwynodd Dr Liz Bickerton and Liz Court wersi a ddaeth o astudiaeth ymchwil o bwys ynglŷn â rôl cynghorau cymuned wrth ddatblygu eu cymunedau.  Roedd hyn yn cynnwys y cysylltiadau gyda’r Strategaeth Gymunedol leol lle mae cynghorau tref a chymuned ar fin chwarae rhan bwysicach yn y dyfodol.

Gweler Cyflwyniadau a Lluniau’r Gynhadledd

Fe gynhalwyd yn gynhadledd yn y Pafiliwn Bont (cyfarwyddiadau i'r lleoliad) 

Gweithredoedd Dogfen