Arweiniad i Ymarferwyr – Gwybodaeth Gefndir
Gwybodaeth gefndir ar y rhifyn newydd hwn o’r Arweiniad i Ymarferwyr.
Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf hwn i arferion cyfrifo ac archwilio priodol ar gyfer cynghorau lleol yn 2002. Y tro diwethaf y cafodd ei ddiweddaru a’i ail-gyhoeddi oedd yn dilyn y diweddariad i’r Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio yn 2003. Mae’r argraffiad newydd hwn yn 2008 yn adeiladu ar y gwaith blaenorol hwn, ac yn cynnwys y newidiadau i’r Rheoliadau yn 2006.
Mae hefyd yn adlewyrchu’r ymatebion a dderbyniwyd pan ofynnodd yr awduron i’r ymarferwyr beth oedd eu barn am yr arweiniad. Cawsom wybod ganddynt beth ddylem ei wneud i’w wella a’i wneud yn fwy defnyddiol.
Mae’r argraffiad newydd hwn yn 2008 yn cyflwyno arferion cyfrifo ac archwilio mewnol priodol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2008/2009 a thu hwnt. Byddwn yn cyhoeddi’r arweiniad hwn am y tro cyntaf mewn fformat electronaidd. Gall ymarferwyr ei lawrlwytho’n rhad ac am ddim o wefannau’r cyd gyhoeddwyr, Un Llais Cymru a’r SLCC. Byddwn yn gofyn i ymarferwyr sydd eisiau copïau papur dalu am y costau argraffu.
Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gwella golwg a rhwyddineb yr arweiniad. Mae’n cynnwys diweddariadau i’r arweiniad gwreiddiol, a rhai deunyddiau newydd ac ychwanegol i helpu ymarferwyr. Er enghraifft, fe welwch erbyn hyn:
* gyswllt i’r cyhoeddiad poblogaidd Councils Accounts – Your Rights;
* diweddariadau ar y trothwyon sy’n gwahanu cyrff sylfaenol a chanolraddol;
* diweddariadau ar effaith y newidiadau i’r Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio;
* nodiadau newydd ar y cyngor yn Ymddiriedolydd;
* nodiadau newydd ar wneud ac adrodd ar fuddsoddiadau hirdymor;
* nodiadau newydd ar gwblhau Adrannau 1, 2 a 4 yr adroddiad blynyddol;
* adran newydd ar sut i gynnal adolygiad o archwilio mewnol;
* adran newydd ar gyllidebau cyfalaf;
* Rhan 4 newydd yn cyfeirio’r cynghorau mwyaf at arferion priodol perthnasol;
* atodiadau newydd a chyfredol ar:
* rymoedd cyfreithiol cynghorau
* cyfrifoldebau cyrff a archwilir a’u harchwilwyr penodedig
* adroddiad blynyddol 2008
* cysylltiadau i Reoliadau Cyfrifo ac Archwilio 2003 wedi’u diwygio a chanllawiau arnynt
* canllawiau LlCC ar fuddsoddi
* rhestr wirio diwedd blwyddyn
* rhestr dermau wedi’i diweddaru a’i hehangu; a
* Mynegai

