Cyngor Partneriaeth Cymru

Mae Un Llais Cymru yn cynrychioli cynghorau cymuned a thref ar Gyngor Partneriaeth Cymru. Y Cyngor Partneriaeth yw’r cyfrwng ffurfiol i awdurdodau lleol gysylltu â Llywodraeth y Cynulliad ac ar gyfer meithrin cydweithio ar draws llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae cynrychiolwyr llywodraeth leol ar y Cyngor Partneriaeth yn cwmpasu'r holl gynghorau a'r awdurdodau perthnasol. Caiff y cyrff canlynol eu cynrychioli:Launch of A Shared Responsibility

  • Cynghorau sir/cynghorau bwrdeistref sirol
  • Cynghorau cymuned a thref
  • Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol
  • Awdurdodau'r Heddlu
  • Awdurdodau Tân ac Achub.

Mae'r Cyngor Partneriaeth yn cwrdd oddeutu 3 gwaith y flwyddyn.

Cynrychiolir Un Llais Cymru ar y Cyngor Partneriaeth gan y Cyng Mair Stephens o Landyfaelog, Sir Gaerfyrddin a’r Cyng Malcolm Jones o Fangor-Isycoed, Wrecsam. Fel ein cynrychiolwyr maen nhw’n gofalu fod buddiannau cynghorau cymuned a thref yn cael eu bwydo i drafodaethau ac yn cael eu hystyried wrth i Lywodraeth Cynulliad Cymru a phartneriaid eraill ddatblygu a gweithredu polisïau.
Am fwy o wybodaeth am y Cyngor Partneriaeth cliciwch yma.

Gweithredoedd Dogfen